Wythnos Gwaith Ieuenctid yng Nghymru
Wythnos Gwaith Ieuenctid
Youth Work Week took place from 23-30th June. Although we were unable to meet in person this year, it was brilliant to see Youth Cymru members, young people, youth workers and organisations from across Wales share their Youth Work Week celebrations on social media. Follow @YWWales on Twitter to see what’s been happening across Wales!
Cynhaliwyd Wythnos Gwaith Ieuenctid rhwng 23-30 Mehefin. Er nad oeddem yn gallu cyfarfod yn bersonol eleni, roedd yn wych gweld aelodau Youth Cymru, pobl ifanc, gweithwyr ieuenctid a sefydliadau o bob rhan o Gymru yn rhannu eu dathliadau Wythnos Gwaith Ieuenctid ar gyfryngau cymdeithasol. Dilynwch @YWWales ar Trydar i weld beth sydd wedi bod yn digwydd ledled Cymru!
Ar ddiwrnod cyntaf Wythnos Gwaith Ieuenctid, rhannwyd nifer o fideos ar gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys neges gan y Gweinidog Addysg a sioe arddangos a grëwyd gan ProMo Cymru yn cynnwys pobl ifanc o bob rhan o Gymru yn egluro pam mae gwaith ieuenctid mor bwysig iddyn nhw. Gallwch weld yr holl fideos yn y dolenni isod:
Neges gan Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg – https://youtu.be/GbamLAscKfY
Neges gan Keith Towler, Cadeirydd Bwrdd Gwaith Ieuenctid Dros Dro Cymru – https://youtu.be/zCFF3J7wZhs
Neges gan Llyr Gruffydd MS – https://youtu.be/CBSqIMdGvzo (Cymraeg – https://youtu.be/P9r0QeAcJss)
Neges gan Lynne Neagle MS – https://bit.ly/31wiWO7
Fideo ‘Youth Work Transforms Lives’ a grëwyd gan ProMo Cymru – https://youtu.be/h4NeiqfhCdA
Diolch i bawb a gymerodd ran ac am eich ymrwymiad rhagorol i waith ieuenctid yng Nghymru! Parhewch i ddefnyddio #YouthWorkWales a #GwaithIeuenctidCymru ar gyfryngau cymdeithasol i rannu’r wybodaeth ddiweddaraf.