Addysg Gysylltiedig â Gwaith

Bydd dysgwyr sy’n defnyddio’r cymwysterau hyn yn elwa o ddatblygu eu sgiliau a’u dealltwriaeth ar gyfer nodi eu llwybr gyrfa a’u harfogi i reoli eu bywyd gwaith yn y dyfodol

Mae'r cymwysterau yn galluogi dysgwyr i fod yn barod am gyflogaeth a chyfrannu'n ystyrlon yn y gweithle, boed mewn rôl gyflogedig neu wirfoddoli.

Mae’r cymwysterau’n cefnogi dysgwyr i:

  • gwireddu eu dyheadau ar gyfer y dyfodol trwy gynllunio ac archwilio llwybrau gyrfa a chyflogaeth posibl
  • deall y sgiliau, y gwerthoedd a'r agweddau sydd eu hangen ar gyfer y gweithle
  • deall sut mae eu dysgu yn berthnasol i'w dyfodol.

 

Rydym yn cefnogi ac yn grymuso pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau cyflogadwyedd drwy’r cymwysterau. Mae hyn yn golygu bod pobl ifanc yn barod ar gyfer gofynion y gweithle a bod gan gyflogwyr weithwyr sy'n bodloni eu safonau a'u disgwyliadau.

O fewn y Cymhwyster AGG gallwch ddewis o amrywiaeth o bynciau sy'n bodloni anghenion y dysgwyr. Mae'r unedau hyn ar gael o Lefel Mynediad 1 i Lefel 2.

Sgiliau Cyfweld
Adeiladu CV
Gwneud cais am swydd
Goresgyn Rhwystrau i Waith
Sgiliau Rhyngbersonol
Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
Paratoi ar gyfer Profiad Gwaith

 

a llawer mwy........................