Please feel free to download the activity resources. All documents are editable and can be adapted for your bespoke session.
Mynydd Ia
NOD
Nod y gweithgaredd hwn yw i bobl ifanc feddwl sut y gall y rhai sy'n profi unigrwydd edrych i eraill. Byddant yn archwilio ac yn cymharu sut mae gwahanol bobl yn dangos eu bod yn profi unigrwydd a beth allem ei wneud i'w helpu.
CANLYNIAD
Bydd gan bobl ifanc ddigon o berthnasoedd o ansawdd da yn seiliedig ar gyd-ymddiriedaeth ac empathi. Teimlo'n rhan o gymuned ehangach sy'n gwerthfawrogi eu cyfraniad. Meddu ar yr hyder ynddynt eu hunain i osod nodau personol ystyrlon. Meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt i gyflawni eu nodau.
ADNODDAU
Taflen gweithgaredd y gellir ei lawrlwytho isod.