Mae Youth Cymru yn darparu Cod Fordd, a ariennir gan UPS ers 2012. Rhaglen hyfforddi yw Cod Ffordd a ddyluniwyd i ddysgu pobl ifanc sydd cyn oedran gyrru am beryglon gyrru a chodi eu hymwybyddiaeth o ddiogelwch ar y ffyrdd.
Mae UPS yn credu bod modd atal llawer o ddamweiniau cerbydau modur yn eu harddegau, ac y gall strategaethau profedig wella diogelwch gyrwyr ifanc ar y ffordd. Crëwyd Cod Ffordd UPS fel rhaglen ryngweithiol o'r radd flaenaf sy'n dwyn ynghyd dechnegau a dulliau gyrru diogel UPS i yrwyr ifanc ledled y byd.