YOUTHPOD

Podlediad Youth Cymru

Gan bobl ifanc, i bobl ifanc

Nod YOUTHPOD yw addysgu, hysbysu, ac ennyn diddordeb pobl ifanc ar wahanol bynciau trwy rannu straeon a phrofiadau pobl eraill. Bydd y pynciau'n amrywio o iechyd meddwl, i arbed arian, i ddysgu popeth am y diwydiant digidol.

Gwrandewch ar ein pennod gyntaf!

Pennod gyntaf ein cyfres 'Save Your Energy'. Yn y bennod hon, mae Anna yn siarad gyda'i chyd-letywr George, am beth i feddwl amdano pan fyddwch chi'n symud allan ac yn dechrau byw'n annibynnol. Maent hefyd yn trafod pwysigrwydd dewis y tariff cywir, a rhai awgrymiadau ar sut y gallwch reoli eich biliau gartref.