Cyflwyniad a chefndir
Mae Youth Cymru yn elusen waith ieuenctid genedlaethol gyda dros 80 mlynedd o brofiad o gefnogi pobl ifanc a gwaith ieuenctid ledled Cymru. Gan ganolbwyntio'n bennaf ar bobl ifanc 11-25 oed, rydym yn gweithio ar y cyd â'n 223 aelod cysylltiedig a sefydliadau eraill sy'n wynebu ieuenctid i ddarparu cyfleoedd, prosiectau a rhaglenni unigryw, arloesol a datblygiadol - gan anelu at wella bywydau pobl ifanc. Fel sefydliad aelodaeth rydym yn cefnogi ac yn cydweithredu â gweithwyr proffesiynol, pobl ifanc a sefydliadau sydd wedi'u lleoli ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru, mewn lleoliadau gwirfoddol a statudol. Rydym yn gweithio mewn ardaloedd gwledig a threfol, yn bennaf mewn cymunedau lle mae pobl ifanc yn gwynebu lefelau uchel o amddifadedd, gan ddarparu adnoddau, cyfleoedd a gwasanaethau hanfodol, cefnogi'r sector ieuenctid a galluogi pobl ifanc i ddatblygu a thyfu.
Rydym yn darparu prosiectau a rhaglenni trwy ein partneriaethau â sefydliadau eraill tra hefyd yn gweithio'n uniongyrchol gyda phobl ifanc. Mae enghreifftiau anghyfyngedig o'n rhaglen waith gyfredol yn cynnwys; Estyn Allan, prosiect sydd â'r nod o daclo unigrwydd ieuenctid; Mae Meddyliau Creadigol yn anelu at ddefnyddio celfyddydau creadigol i leihau stigma iechyd meddwl negyddol ymysg pobl ifanc a'n prosiect Trawsnewid Cymru, gan weithio i gefnogi pobl ifanc sy'n uniaethu fel rhyw nad yw'n ddeuaidd neu drawsrywiol. I gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith, ewch i'n gwefan yn www.youthcymru.org.uk
Yn ogystal â'n gwaith ar sail genedlaethol ledled Cymru, rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda sefydliadau ieuenctid eraill y DU ac Ewrop. Er enghraifft mae gennym berthynas unigryw yn ein Partneriaeth 5 Gwlad, sy'n cynnwys Uk Youth, Youth Scotland, Youth Action Northern Ireland a Youth Work Ireland; gan ein galluogi i gefnogi gwaith ieuenctid yng Nghymru gan ddarparu cyfleoedd cenedlaethol ac Ewropeaidd estynedig i bobl ifanc, gweithwyr proffesiynol sy'n wynebu ieuenctid a sefydliadau.
Mae ein gwaith wedi'i lunio o amgylch canllawiau cenedlaethol mewn perthynas â gwaith ieuenctid yng Nghymru. Rydym yn cael ein tywys a'n cyfarwyddo gan Egwyddorion a Dibenion Gwaith Ieuenctid Cymru, ac wrth symud ymlaen, byddwn yn canolbwyntio ein datblygiad a'n gwaith yn y dyfodol sy'n cyd-fynd â'r Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru 2019.