Arienir y prosiect Estyn Allan 2.0 gan The Co-Op Foundation https://www.coopfoundation.org.uk/youth/
Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar weithio gyda phobl ifanc ledled Cymru sydd mewn perygl o brofi unigrwydd, arwahanrwydd cymdeithasol a chanlyniadau negyddol cysylltiedig. Ar ôl pandemig COVID -19 yn 2020 mae mwy o waith i'w wneud ar hyn.
Mae Estyn Allan 2.0 yn brosiect sy'n galluogi pobl ifanc rhwng 14 a 25 oed, i fyfyrio ar eu profiadau eu hunain o unigrwydd wrth weithredu a taclo'r stigma o amgylch y pwnc.
Mae ein hybiau Estyn Allan 2.0 yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau a chefnogaeth, gan gynnwys gweithdai pwrpasol sy'n archwilio thema unigrwydd ieuenctid yng Nghymru.