Our Bright Future

Mae Youth Cymru yn falch i gyhoeddi ein bod yn gweithio gyda Our Bright Future i gefnogi eu Gwaith polisi ac eriolaeth yng Nghymru.

 

Mae Our Bright Future yn bartneriaeth uchelgeisiol ac arloesol o dan arweiniad yr Ymddiriedolaethau Natur. Mae’r rhaglen, sy’n werth £33 miliwn a wedi ei chyllido gan y National Lottery Community Fund, yn cynnwys 31 o brosiectau ledled y DU sy’n dod â’r sectorau ieuenctid ac amgylcheddol at ei gilydd. Mae pob prosiect yn helpu pobl ifanc 11 i 24 oed i ennill sgiliau a phrofiadau hanfodol, ac i wella eu lles. Ar yr un pryd, maent yn gweithredu fel catalydd i greu newid yn eu hamgylchedd a’u cymuned leol, gan gyfrannu hefyd at economi wyrddach.

Mae prosiectau'n amrywiol iawn ac yn rhoi sylw i lawer o broblemau a heriau mae pobl ifanc yn eu hwynebu.  Mae un thema'n dod ar holl brosiectau at ei gilydd: y ffocws ar bobl ifanc a'r amgylchedd.  Mae pobl ifanc yn datblygu gwybodaeth, sgiliau gwytnwch a hyder i wella eu cyflogadwyedd a'u lles.  Ar yr un pryd, mae pobl ifanc yn cael eu cefnogi  fel bod ganddynt ddylanwad ar eu hamgylchedd lleol

 

 

Yn dilyn proses dendro, penodwyd Youth Cymru i gefnogi swyddogaeth polisi ac eiriolaeth Our Bright Future yng Nghymru. Byddwn yn cefnogi pobl ifanc a phrosiectau yng Nghymru i fod yn rhan o lunio gweithgareddau polisi ac eiriolaeth, gan estyn allan i bob pwrpas at ddylanwadwyr a llunwyr penderfyniadau sy'n hynod amrywiol ac yn taclo nifer o faterion a heriau sy'n wynebu pobl ifanc. Mae un thema sy'n dod â'r holl brosiectau ynghyd: y ffocws ar bobl ifanc a'r amgylchedd

 

Mae Our Bright Future wedi casglu mwy na 700 o syniadau gan bobl ifanc a gweithwyr ieuenctid yn ystod proses o ymchwil dan arweiniad ieuenctid. Atebodd pobl ifanc eu bod eisiau tri newid allweddol o amgylch y themâu canlynol:

Gofyn 1: treulio mwy o amser yn dysgu ym myd natur ac amdani

Gofyn 2: cefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol

Gofyn 3: Y llywodraeth, cyflogwyr, busnesau, ysgolion ac elusennau i roi mwy o sylw i anghenion pobl ifanc a'r amgylchedd

Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda phobl ifanc a phrosiectau o'r rhwydwaith Our Bright Future i helpu i droi blaenoriaethau pobl ifanc yn newid polisi go iawn.
 
I gael mwy o wybodaeth am Our Bright Future, ewch i http://www.ourbrightfuture.co.uk/. Cysylltwch â Rachel Benson (rachel@youthcymru.org.uk) i drafod gydag Youth Cymru.