Sut bydd Cynefin yn cael ei werthuso?

Rydym am fod yn hyblyg a gweithio gyda phrosiectau a ariennir i gyd-ddylunio dulliau gwerthuso cyfranogol priodol sy'n gweddu i'r gwaith sy'n cael ei gyflawni. Mae gennym yr un diddordeb yn yr hyn sy’n ‘dod allan’ o ymgysylltu â phrosiectau ag sydd gennym yn ddeilliannau a bennwyd ymlaen llaw/a ragwelir. Gall Youth Cymru ddefnyddio eu ddulliau gwerthuso creadigol a byddent wrth eu bodd yn clywed eich syniadau hefyd! Mae enghreifftiau o ddulliau yn cynnwys adrodd straeon, llyfrau lloffion, cyfnodolion, digidol a chyfweliadau â phobl sy'n ymwneud â'r prosiect. Byddwn yn monitro cynnydd prosiectau a ariennir yn rheolaidd gan ddefnyddio dull Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau (RBA) syml, gan ofyn 3 chwestiwn: Faint ydyn ni wedi'i wneud, pa mor dda ydyn ni / wnaethom ni, a phwy sydd ar eu hennill o ganlyniad? Byddwn yn cynnal sesiynau cymorth rheolaidd gydag arweinwyr prosiectau i sicrhau bod popeth ar y trywydd iawn. Gan weithio gydag ymgeiswyr, byddwn yn sicrhau bod y gweithgareddau a ariennir yn unol â chwe egwyddor #iWill:

Byddwch yn Heriol

Byddwn yn galluogi pobl ifanc i gyfeirio’r gweithgareddau trwy gefnogaeth gan weithwyr ieuenctid gan gynnig profiadau newydd iddynt. Trwy gymryd pobl ifanc allan o'u hardaloedd cysurus, gan eu galluogi i ddatrys problemau yn eu cymunedau trwy weithredu cymdeithasol. Bydd hyn yn ei dro yn cynyddu eu hyder a’u hunan-barch (mesurau llesiant goddrychol).

Dan arweiniad Ieuenctid

Rydym yn cydnabod pobl ifanc yn llawn fel yr arbenigwyr yn eu bywydau eu hunain a'u profiadau bywyd. Rydym yn tanysgrifio i ddull seiliedig ar hawliau i’n gwaith o fewn Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP) ac yn rhoi profiadau ystyrlon i bobl ifanc fel arweinwyr ifanc sy’n datblygu i adeiladu eu cyfalaf cymdeithasol (archwiliad safonau cyfranogiad).

Cael effaith gymdeithasol

Bydd yn datblygu Theori Newid gyda phobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol eraill a nodwyd a all ddylanwadu ar ganlyniadau ac effaith y gweithgareddau gweithredu cymdeithasol yr ymgymerir â hwy ac a all ddangos effeithiau achosol y rhain i werthuso effeithiolrwydd y ddarpariaeth.

Caniatáu dilyniant i gyfleoedd eraill

Bydd partneriaid cyflawni a rhanddeiliaid allweddol eraill yn nodi ac yn sicrhau, trwy froceriaeth, lwybrau ystyrlon a chynaliadwy ar gyfer dilyniant i fuddiolwyr i gyflogaeth, addysg a/neu hyfforddiant yn ogystal â chyfleoedd anffurfiol a heb fod yn ffurfiol yn y gymuned yn ystod a thu hwnt i oes y prosiect.

Cael eu gwreiddio ym mywyd person ifanc

Gan ddefnyddio’r rhwydwaith o randdeiliaid ac eraill, gellir cysylltu pobl ifanc â grwpiau a sefydliadau cymunedol i barhau i ddarparu ymgyrchoedd seiliedig ar le a phrosiectau gweithredu cymdeithasol. Bydd y berthynas hon hefyd yn cael ei defnyddio i recriwtio pobl ifanc, uwchsgilio a'u hailgyflwyno yn ôl i'w cymunedau fel actifyddion ifanc.

Galluogi myfyrio am werth y gweithgaredd -

Datblygu pobl ifanc fel meddylwyr beirniadol trwy gyfleoedd â chymorth i archwilio eu diddordebau a’u hanghenion a rhai pobl eraill o’u cwmpas, ystyried a herio’r hyn y maent yn ei brofi/glywed gan eraill, ffurfio sgiliau gwerthuso i wneud synnwyr o hyn a’i fynegi a’u hamlygu i eraill, datblygu sgiliau trafod, datrys problemau a gwaith tîm.