Sut bydd Cynefin yn cael ei werthuso?
Rydym am fod yn hyblyg a gweithio gyda phrosiectau a ariennir i gyd-ddylunio dulliau gwerthuso cyfranogol priodol sy'n gweddu i'r gwaith sy'n cael ei gyflawni. Mae gennym yr un diddordeb yn yr hyn sy’n ‘dod allan’ o ymgysylltu â phrosiectau ag sydd gennym yn ddeilliannau a bennwyd ymlaen llaw/a ragwelir. Gall Youth Cymru ddefnyddio eu ddulliau gwerthuso creadigol a byddent wrth eu bodd yn clywed eich syniadau hefyd! Mae enghreifftiau o ddulliau yn cynnwys adrodd straeon, llyfrau lloffion, cyfnodolion, digidol a chyfweliadau â phobl sy'n ymwneud â'r prosiect. Byddwn yn monitro cynnydd prosiectau a ariennir yn rheolaidd gan ddefnyddio dull Atebolrwydd ar Sail Canlyniadau (RBA) syml, gan ofyn 3 chwestiwn:
Faint ydyn ni wedi'i wneud, pa mor dda ydyn ni / wnaethom ni, a phwy sydd ar eu hennill o ganlyniad? Byddwn yn cynnal sesiynau cymorth rheolaidd gydag arweinwyr prosiectau i sicrhau bod popeth ar y trywydd iawn. Gan weithio gydag ymgeiswyr, byddwn yn sicrhau bod y gweithgareddau a ariennir yn unol â chwe egwyddor #iWill: