Mae’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen Estyn Allan wedi dweud wrthym, mewn cymunedau, lle nad yw adnoddau’n caniatáu ar ei gyfer, fod angen i ni gynnig y cyfle i gynnig cronfa grantiau bach cychwyn prosiect anghyfyngedig i bobl ifanc ‘brofi’ anghenion a nodwyd yn lleol ( fel arfer hyd at uchafswm o £500).
Byddai’r grant bach cychwynnol yn galluogi pobl ifanc a sefydliadau i archwilio syniad ac ymgysylltu â’r bobl y byddai’r prosiect yn ceisio eu gwasanaethu i nodi/egluro angen, gallu, cyfleoedd datblygu (uwchsgilio gwirfoddolwyr, ac ati, ac ystyried unrhyw fylchau posibl) cynnal digwyddiadau/ rhaglenni i ddod â phobl ifanc at ei gilydd i rannu profiadau, hyrwyddo cydlyniant cymunedol ac (ail)gysylltu ag ymdeimlad o berthyn i'w 'lle'.