Cymuned Ddelfrydol

Amser

30 - 60 munud

Targed

14-25 old

Cyflwyno

Wyneb yn wyneb

Cyflwyno

Ar lein

NOD

Nod y gweithgaredd hwn yw i bobl ifanc ddefnyddio eu dychymyg a meddwl sut olwg fyddai ar gymuned ddelfrydol sy'n taclo unigrwydd.

CANLYNIAD

Bydd pobl ifanc yn defnyddio sgiliau creadigol i fynegi eu hunain a'u syniadau. Nodi anghenion pobl ifanc unig yn eu hardal. Meddyliwch sut y gallant daclo unigrwydd yn eu cymuned.

ADNODDAU

Pinnau ysgrifennu a phapur.

Cyfarwyddiadau gweithgaredd

Dosbarthwch bapur, beiros, pensiliau i bob person ifanc

Gofynnwch iddyn nhw dynnu eu CYMUNED DDELFRYDOL, yn y gymuned hon fyddai neb yn unig.

Ar ôl iddynt orffen, gofynnwch iddynt pa wahaniaethau sydd rhwng y gymuned y maent wedi'i darlunio, a'u cymuned eu hunain.

Trafodwch sut y gall y bobl ifanc ddatblygu'r syniadau hyn i daclo unigrwydd, yn eu prosiectau allgymorth unigrwydd. Gofynnwch iddyn nhw feddwl am y cwestiynau: PA WAHANIAETH YDYCH CHI EISIAU GWNEUD? SUT Y BYDDWCH YN GWYBOD YR EFFAITH YDYCH CHI WEDI EI WNEUD?
. . .