Prosiectau pobl ifanc

Ydych chi rhwng 12 a 25 oed? Oes gennych chi syniad gwych allai gyfleu pwysigrwydd blodau gwyllt brodorol a mannau gwyllt mewn ffordd greadigol? Neu a fyddech chi’n hoffi gweithio gydag eraill i helpu i weddnewid gofod lleol gyda phlanhigion a blodau gwyllt brodorol?

Ewch ati i greu: Rydym ni’n chwilio am syniadau llawn dychymyg sy’n codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blodau a phlanhigion brodorol y DU gyda gwaith celfyddyd gweledol neu gerddoriaeth, barddoniaeth neu ddawns. Bydd yr ymgeiswyr buddugol yn derbyn £500 i greu eu gwaith celfyddyd creadigol neu i recordio eu perfformiad sain, yn ogystal â chael y cyfle i arddangos neu berfformio eu gwaith yn yr awyr agored mewn digwyddiad proffil uchel yn y DU yn ystod yr haf. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 25 Ionawr 2016.

Gweddnewid Gofod Lleol – Rydym ni’n chwilio am syniadau prosiect a fydd yn hybu ymwybyddiaeth o bwysigrwydd blodau gwyllt a phlanhigion brodorol a’u cynefinoedd amrywiol. Gall eich prosiect gynnwys mwy na hau a phlannu – cyn belled â’i fod yn cyflwyno neges am flodau gwyllt brodorol y DU a mannau gwyllt mewn ffordd greadigol. Ceisiwch greu rhywbeth gwyllt, arloesol, sy’n tynnu sylw. Y dyddiad cau ar gyfer ymgeisio yw 22 Chwefror 2016.

Am fwy o wybodaeth a sut i wneud cais, ewch i’n gwefan https://www.growwilduk.com/cy/grow-it

 

grow wild pic