Dyddiad: TBC
Amser: 10am – 4pm
Lleoliad: Youth Cymru, Unit D Upper Boat Business Centre, Treforest, Rhondda Cynon Taff, CF37 5BP
Cost: £100 yr un per person (cysylltwch â ni i drafod gostyngiadau ar gyfer archebion grŵp a chyrsiau mewnol pwrpasol)
Mae'r cwrs hyfforddi hwn yn rhedeg dros un diwrnod a bydd yn cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o ymddygiadau rhywiol niweidiol mewn pobl ifanc. Y bwriad yw hyrwyddo a datblygu dealltwriaeth o faterion cyfreithiol, polisi a chymdeithasol mewn perthynas ag ymddygiadau niweidiol yn rhywiol.
Bydd cyfranogwyr yn archwilio ymddygiadau arferol a phroblemau gyda'r bwriad o ddatblygu eu mewnwelediad, eu dealltwriaeth a'u hymwybyddiaeth, gan alluogi ymateb effeithiol o fewn fframwaith diogelu.
Bydd cyfranogwyr yn:
- Deall y gwahaniaeth rhwng ymddygiadau arferol a phroblemau.
- Deall y cyd-destun cyfreithiol a pholisi.
- Datblygu mewnwelediad i agweddau, credoau a chyd-destunau mewn perthynas ag ymddygiad rhywiol niweidiol.
- Dechrau ddeall technegau ymyrraeth ar gyfer gweithio gyda phobl ifanc sy'n arddangos neu mewn perygl o arddangos ymddygiadau rhywiol niweidiol.