Cefnogaeth Ymgynghoriaeth

Mae gan Youth Cymru dros 85 mlynedd o brofiad o weithio yn y sector ieuenctid ledled Cymru.

Rydym yn arbenigwyr cenedlaethol ar waith ieuenctid Cymreig a gallwn ddarparu cefnogaeth ymgynghorol i chi a'ch sefydliadau mewn nifer o feysydd allweddol.

Os ydych yn bwriadu datblygu rhannau penodol o’ch ymarfer ac yn chwilio am gymorth ymgynghorol arbenigol, seinfwrdd ar gyfer eich nodau a’ch cyfeiriad strategol, ffrind beirniadol a/neu gynghorydd arbenigol gallwn weithio gyda chi i ddarparu cymorth hyblyg, wedi’i deilwra.

Gallwn gynnig ein harbenigedd mewn sawl maes gan gynnwys:

  • Llais ieuenctid, ymgynghori a chyfranogiad:
    Datblygu ymddiriedolwyr ifanc
    Dangos effaith trwy werthuso a monitro
    Adrodd a golygu
    Achredu a datblygu'r cwricwlwm
    Datblygu staff a hyfforddi perfformiad
    Rheoli a chynllunio digwyddiadau

 

Gall ein cynnig amrywio o drafodaethau dros y ffôn i gyfres o gyfarfodydd ymgynghorol sy’n gysylltiedig ac yn arwain at ddarpariaeth o gamau gweithredu a gwasanaethau ymarferol pwrpasol. I gael gwybod mwy am sut gallwn ni helpu cysylltwch communications@youthcymru.org.uk