Beth yw unigrwydd

Amser

20 mins

Targed

14-25 oed

Cyflwyno

Wyned Yn Wyneb

Cyflwyno

Ar lein

NOD

Cael pobl ifanc i feddwl beth yw unigrwydd a sut y gall rhai pobl ifanc fod yn unig.

AMCAN

Bydd pobl ifanc yn rhannu eu gwahanol ganfyddiadau o unigrwydd, yn mynegi eu hunain ac yn dysgu syniadau newydd, ac yn defnyddio trafodaeth gyda chyfoedion i rannu eu llais.

ADNODDAU

Papur siart a beiros.

Cyfarwyddiadau gweithgaredd

Dosbarthwch bapur siart troi a beiros i bob grŵp (efallai y bydd un grŵp mawr yn unig).

Gofynnwch iddyn nhw ysgrifennu “BETH YW UNIGRWYDD?" yng nghanol y papur. 

Anogwch y bobl ifanc i ysgrifennu beth maen nhw'n meddwl yw unigrwydd, ar y papur siart.  Gallai'r rhain fod yn rhesymau dros unigrwydd, dynodwyr unigrwydd, geiriau, ymadroddion, neu hyd yn oed lluniau 

Os oes mwy nag un grŵp, gofynnwch iddynt roi adborth ar yr atebion sydd wedi'u hysgrifennu a'u trafod. Os mai dim ond un grŵp sydd yna ewch trwy'r atebion i'r grŵp hwnnw a thrafod.
. . .