Mae'r broses ymgeisio NAWR AR AGOR!
Proses ymgeisio Cynefin
Beth yw'r broses ymgeisio a'r dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno?
Ein nod yw bod mor hyblyg â phosibl i gefnogi unigolion a sefydliadau.
Rydym yn rhagweld y byddwn yn dyrannu’r holl grantiau prosiectau cychwyn bach (uchafswm o £500) erbyn 30 Tachwedd 2022. Yr ymgynghoriad cymunedol, yr ymchwil a chynllunio’r prosiect i’w cwblhau erbyn 31 Mawrth 2023. Os teimlwch fod eich prosiect yn barod i fynd, gallwch wneud cais am y grant llawn (uchafswm o £5,000) ar unwaith! Rydym yn rhagweld prosiectau a fydd yn para 6-12 mis (yn dibynnu ar ba bryd y byddant yn dechrau). Bydd ceisiadau am y grantiau cychwyn yn cael eu hystyried gan banel o bobl ifanc ac oedolion. Bydd angen cyflwyno ‘cynnig’ i banel ar gyfer pob cais am grant llawn er mwyn dod â buddion cymunedol y cynnig ‘yn fyw’ a’n galluogi i ddod i adnabod y rhai sy’n gysylltiedig yn ddigidol neu’n bersonol.