Ysgol Haf – Rhedeg y Ganolfan

Ydych chi erioed wedi ystyried gweithio mewn adeilad fel Canolfan Mileniwm Cymru, yn croesawu ymwelwyr neu’n gweithio â’r wasg?

Wel, dyma’ch cyfle; mae’r Ganolfan wedi cofrestru i fod yn rhan o’r ymgyrch genedlaethol Kids in Museums/Theatres ac rydyn ni’n edrych am bobl ifanc rhwng 13 – 19 oed i feddiannu’r Ganolfan ar 12 Tachwedd.

Yn dechrau gydag Ysgol Haf pythefnos o hyd ym mis Awst, byddwn yn cynnig cymorth a hyfforddiant i chi rhedeg y Ganolfan.  Mae’r ysgol haf yn rhad ac am ddim ac yn rhedeg 17-28 Awst. Bydd cefnogaeth ariannol ar gyfer bwyd a theithio yn ogystal â chyfle i ddysgu a chlywed gan bobl broffesiynol y diwydiant, gan gynnwys arbenigwyr yn y meysydd technegol, marchnata a rhaglennu.  Wedi i’r ysgol haf orffen, byddwch yn trefnu sesiynau wythnosol gyda’ch cyfoedion er mwyn parhau gyda’ch hyfforddiant a’ch paratoi ar gyfer cymryd awenau’r Ganolfan ar 12 Tachwedd.

Mae’r holl brofiad yn rhad ac am ddim, ac mae dim ond angen llenwi ffurflen gais fer, i fod ar gael Ddydd Llun 17 – Ddydd Gwe 28 Awst ac ag agwedd brwdfrydig a gweithgar.

 

Swyddi Posib

Technegydd y llwyfan cyhoeddus

Rheoli cyfryngau cymdeithasol y Ganolfan

Y Wasg a Marchnata

Rhaglennu’r llwyfan cyhoeddus

Arwain Blaen y Tŷ

Swyddi yn ein hadran lluniaeth

 

http://www.wmc.org.uk/TakePart/SummerSchool