ReachOut / Estyn Allan

 

 

Ariennir y prosiect ReachOut gan The Co-Op Foundation, ac mae’n canolbwyntio ar gweithio gyda phobl ifanc ledled Cymru sydd mewn perygl o brofi unigrwydd, arwahanrwydd cymdeithasol a chanlyniadau negyddol cysylltiedig. Mae ein Hybiau ReachOut yn cyflwyno rhaglen o weithgareddau a chefnogaeth, gan gynnwys gweithdai pwrpasol sy’n archwilio thema unigrwydd ieuenctid yng Nghymru.

Yn dilyn blwyddyn beilot ReachOut y llynedd, rydym wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol gan Co-op Foundation i ehangu’r prosiect yn 2019-21. Mae ReachOut wedi bod yn gweithio gydag ystod eang o sefydliadau ieuenctid ac unigolion i addysgu a grymuso pobl ifanc (14-25 oed) ynghylch unigrwydd ieuenctid yng Nghymru.
Mae pobl ifanc wedi bod yn cymryd rhan mewn gweithdai creadigol, ynghyd â datblygu eu prosiectau gweithredu cymdeithasol eu hunain i daclo unigrwydd yn eu cymunedau. Mae’r prosiectau gweithredu cymdeithasol hyn yn cael eu harwain a’u rhedeg gan ieuenctid, gyda’r bobl ifanc yn nodi rhywbeth yn eu cymunedau y mae unigrwydd ieuenctid yn effeithio arno. Y llynedd dewisodd un canolbwynt redeg dawns rhwng cenedlaethau ar gyfer eu prosiect gweithredu cymdeithasol, tra bod un arall wedi creu hosanau llesiant i’w rhoi i ferched sy’n byw yn ddigartref yn eu cymuned.

Er mwyn cefnogi ein hybiau rydym wedi creu pecyn cymorth am ddim wedi’i lenwi ag ystod o weithgareddau a gweithdai i helpu pobl ifanc i archwilio unigrwydd a chynllunio eu prosiectau gweithredu cymdeithasol. Mae’r pecyn cymorth hwn ar gael yn Saesneg a Chymraeg ac mae i’w weld ymhellach i’r dudalen hon lle gallwch ei lawrlwytho am ddim.
Mae’r gweithdai misol ReachOut yn le diogel lle gall pobl ifanc gymryd rhan mewn mudiad i fynd i’r afael ag unigrwydd ieuenctid trwy weithgareddau creadigol hwyliog. Rhwng y gweithdai mae cyfle i gyfathrebu’n wythnosol trwy’r llwyfannau ar-lein ReachOut: twitter (@youthcymru), facebook (@ycreachout). Mae’r prosiect yn cefnogi pobl ifanc i ddatblygu hyder a hunan-barch, yn lleihau arwahanrwydd cymdeithasol ac yn gweithio i daclo stigma unigrwydd ymhlith pobl ifanc.

Mae’n swnio’n ddiddorol? Am gymryd rhan? Dewch o hyd i’ch canolbwynt agosaf isod …

Mess Up The Mess

Mess Up the Mess Theatre Company,
46 College Street, Ammanford, SA18 3AF
@MessUpTheMess
http://messupthemess.co.uk/

Newtown Youth Club

Newtown Youth Club
County Council County Hall, Llandrindod Wells, Powys, LD1 5LG
@YouthclunNewtown
www.youth.powys.gov.uk

Vale Youth Forum

Vale Youth Forum
Glamorgan Voluntary Services, Barry Community Enterprise Centre, CF62 9DA
valeyouthforum@hotmail.co.uk
@ValeYouthForum

Reality Theatre Company

Reality Theatre Company,
Robins Lane Studios, Newport, NP20 1EZ
@realitytheatre

Crosskeys Youth Centre

Crosskeys Youth Centre,
Pandy Park, Crosskeys, NP11 7BS
@Youth4u

Youth Cymru Hub

Youth Cymru Cardiff Hub
To find out more contact ReachOut project leads Kirstie and Anna at projects@youthcymru.org.uk
@ycreachout