Trawsrywiol Cymru – Prosiect Newydd Lansiowelsh govt

Mae Youth Cymru yn falch o lansio Trawsywiol Cymru, prosiect tair blynedd a ariennir gan Lywodraeth Cymru Rhaglen Grant Cynhwysiant a Chydraddoldeb.

Bydd Trawsrywiol Cymru yn gweithio tuag at roi sylw i’r gwahaniaethu a gwaharddiad a wynebir yn aml gan bobl ifanc sy’n nodi eu bod yn drawsrywiol (gan gynnwys y rhai sy’n ystyried eu hunain yn drawsryweddol, drawsrywiol, neutrois, hylif rhyw) neu sy’n cwestiynu eu hunaniaeth rywiol.

Mae ymchwil y Swyddfa Gartref yn 2011 yn dangos bod 70% o blant sy’n ansicr ynghylch eu rhyw yn destun i fwlio. Mae’r ymgynghoriad rhwng Youth Cymru â phobl ifanc trawsrywiol yn datgan pryderon am wahaniaethu a bwlio trawsffobig.

Rydym yn credu y gall gwaith ieuenctid o ansawdd da chwarae rôl allweddol mewn gwahaniaethu a galluogi pobl ifanc i weld ei hunaniaeth eu hunain, mynediad at eu hawliau a gwneud dewisiadau gwybodus a chadarnhaol.

Bydd y prosiect yn galluogi gweithwyr proffesiynol mewn sefydliadau ieuenctid i ddarparu cyngor, gwybodaeth ac eiriolaeth briodol i bobl ifanc sy’n ystyried eu hunain fel trawsrywiol ac i herio agweddau gwahaniaethol. Mae Youth Cymru am sefydlu Grŵp Llywio o bobl ifanc sydd yn perthnasu i fod yn trans, a fydd yn cefnogi Youth Cymru i greu pecyn cymorth ac adnoddau hyfforddi i godi ymwybyddiaeth ymysg gweithwyr proffesiynol am faterion s’yn ymwneud â hunaniaeth rhyw.

Byddwn yn dechrau’r cam cyntaf o waith ymchwil ac ymgynghori â phobl ifanc a gweithwyr proffesiynol ar draws Cymru cyn bo hir, er mwyn i ni alluogi i fapio darpariaeth bresennol, nodi enghreifftiau o arfer da a chasglu tystiolaeth ar gyfer pecyn cymorth ac adnoddau hyfforddi.

Os hoffech drafod y prosiect Trawsrywiol Cymru yn fwy manwl, cysylltwch â Rachel Benson, Swyddog Datblygu Ieuenctid Cymru – rachel@youthcymru.org.uk / 07528 814373

 

Gadael Ymateb

Ni fydd eich cyfeiriad e-bost yn cael ei gyhoeddi. Mae'r meysydd gofynnol yn cael eu marcio *