Prosiect tair blynedd o hyd sy’n cael ei ariannu gan lywodraeth Cymru yw Traws*Newid Cymru. Ei nod yw ymbweru a chynorthwyo pobl ifanc draws* I gyrchu eu hawliau, a chynorthwyo sefydliadau ieuenctid I fynd I’r afael a’r gwahaniaethu a’r allgau y mae llawer o bobl ifanc draws* yn ei wynebu.
Grw ^p Llywio o bobl ifanc sy’n eu gosod eu hunain ar y sbectrwm traws* yw Traws*Newid Cymru. Mae Youth Cymru’n cynorthwyo’r Grw ^p Llywio i ddatblygu adnoddau a chynllunio digwyddiadau er mwyn codi ymwybyddiaeth gweithwyr proffesiynol a phobl ifanc am faterion traws*.
Mae’r pecyn cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth am rai o’r pwyntiau allweddol a gododd o’n hymgynghoriad â phobl ifanc draws*, canllawiau ar gyfer sefydliadau gwaith ieuenctid, a detholiad o adnoddau i’w defnyddio gyda phobl ifanc er mwyn hybu ymwybyddiaeth am gydraddoldeb ac amrywiaeth o fewn eich sefydliad.
39880-YC-TransForm-Toolkit-Welsh-Final