Arian Am Oes yn cael ei ddarparu gan Youth Cymru mewn partneriaeth â UK Youth a The Mix. Ariennir y prosiect gan Lloyds Banking Group i ysbrydoli cenhedlaeth i wneud y gorau o'u harian.
Arian Am Oes
Mae'r rhaglen yn cynnwys…
Gwefan Arian Am Oes , lle gall pobl ifanc ddod o hyd i gyngor arbenigol ar arian, hyfforddiant ar-lein a fforymau cymorth.
Hyfforddiant addysg cymheiriaid wyneb yn wyneb i ddarparu Dosbarthiadau Meistr Arian ymarferol i bobl ifanc ledled y DU.
Ap arloesol, Pennies to Pounds, yn helpu pobl ifanc i greu nod cynilo a'i gyrraedd gydag awgrymiadau a chefnogaeth arbed arian ysgogol.
Llinell gymorth 24/7 a sgwrs we 1-2-1 yn darparu cefnogaeth ac yn cyfeirio at bobl ifanc a allai fod mewn argyfwng ariannol.
Dros 3 blynedd cyrhaeddodd Arian am Oes dros 30,000 o bobl ifanc ledled y DU trwy Dosbarth Meistr Arian.
Trwy gydol y rhaglen Arian am Oes, bu Youth Cymru mewn partneriaeth ag UK Youth, Youth Scotland, Youth Action Gogledd Iwerddon gyda sefydliadau ieuenctid i ddarparu Dosbarthiadau Meistr Arian ledled y DU.
Ar ôl 3 blynedd o ddarparu Dosbarth Meistr Arian i bobl ifanc ledled Cymru, gwnaethom ddathlu'r rhaglen gyda Digwyddiad yn y Senedd, Caerdydd.
Daeth Sefydliadau Ieuenctid ledled Cymru ynghyd i arddangos eu gwaith a'u Prosiectau Cymunedol