Croeso i Fanc Dillad Rhwymo Traws*Newid. Ein nod yw darparu dillad rhwymo ar gyfer pobl ifanc sy’n draws, yn anneuaidd, sy’n cwestiynu ac sy’n rhyngryweddol yng Nghymru, ynghyd â gwybodaeth am rwymo a gofalu amdanoch eich hun.
I wneud cais, neu i gyflwyno dilledyn rhwymo, cysylltwch â binderbank@youthcymru.org.uk
Bu’r prosiect hwn yn bosibl diolch i gyllid gan O2 Think Big. Hoffem ddiolch i gc2b am eu cefnogaeth i’r cynllun hefyd.
Gwybodaeth Bwysig
- Darperir y dillad rhwymo yn rhad ac am ddim, a gallent fod yn rhai newydd neu’n rhai ail-law sydd mewn cyflwr da.
- Mae rhwymynnau ar gael i bobl sy’n sy’n draws, yn anneuaidd, sy’n cwestiynu a/neu’n rhyngryweddol ac sy’n byw yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Am rannau eraill o’r byd, ewch i Gynllun Dillad Rhwymo MORF
- Byddwn yn anfon y dillad rhwymo mewn amlen blaen heb unrhyw gyfeiriad at y Banc Dillad Rhwymo na Traws*Newid Cymru ar y pecyn.
- Byddwn yn anfon gwybodaeth am rwymo diogel gyda phob dilledyn rhwymo.
Cyfyngiadau’r Cynllun
Am ein bod ni’n dibynnu ar roddion, yn anffodus, ni allwn ddarparu dillad rhwymo ar gyfer pawb. Mae’n bosibl y bydd yna adegau pan fydd rhestr aros am ddillad rhwymo, yn enwedig felly yn y meintiau mwyaf poblogaidd. I fod yn gymwys ar gyfer y banc dillad rhwymo, rhaid i chi:
- Fod yn drawsryweddol, yn anneuaidd, yn rhyngryweddol a/neu yn cwestiynu eich rhywedd.
- Dylech fod yn 25 oed neu’n iau, ond gallwn helpu pobl sydd ychydig bach yn hŷn os nad oes modd iddynt gael dillad rhwymo fel arall.
- Rhaid i chi fod yng Nghymru ar hyn o bryd.
- Rhaid i chi beidio â gofyn am ddillad rhwymo er mwyn eu gwerthu ymlaen am elw.
binder-bank-leaflet-FINAL-WELSH