Digwyddiad Hustyngau 2021
Cafodd digwyddiad hustyngau 2021 a drefnwyd gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc, ei lunio gan ddefnyddio egwyddorion a gwerthoedd allweddol gwaith ieuenctid a chymunedol. Mae ymchwiliad mewnol ac allanol llawn wedi dod i'r casgliad bod y person ifanc unigol a dynnwyd o'r digwyddiad, yn anffodus, wedi torri'r cod ymddygiad a chanllawiau iechyd a diogelwch, y cytunwyd gan yr holl bobl ifanc, staff Youth Cymru, a chynrychiolwyr y pleidiau gwleidyddol a oedd yn bresennol. Daeth y canfyddiadau i'r casgliad bod Youth Cymru wedi gweithredu'n briodol.
Ni chanfu'r ymchwiliad unrhyw dystiolaeth o wahaniaethu yn erbyn unrhyw grwpiau a gynrychiolir yn yr hustyngau. Mae Youth Cymru wedi gweithio gyda chymuned draws Cymru ac wedi'i hyrwyddo ers blynyddoedd lawer a bydd yn parhau i gefnogi pobl ifanc draws ledled y wlad.
Ni fydd Youth Cymru yn gwneud unrhyw sylw pellach ar y mater hwn ac mae'n edrych ymlaen at barhau â'i ymrwymiad i egwyddorion a gwerthoedd allweddol gwaith ieuenctid a chymunedol er budd bywydau holl bobl ifanc Cymru.
Cadeirydd ac Ymddiriedolwyr Youth Cymru.