Gwaith Ieuenctid a’r Cwricwlwm Cymreig

Bwriad y pecyn cymorth yma yw cynorthwyo gweithwyr ieuenctid yng Nghymru i ddeall, ymgysylltu â, a chydategu’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’n cydnabod rôl unigryw gwaith ieuenctid fel math o addysg anffurfiol sy’n seiliedig ar berthnasau sy’n cynorthwyo datblygiad holistaidd pobl ifanc ac yn cyfrannu at bedwar diben y cwricwlwm.

Datblygwyd yr adnodd hwn trwy brosiect Llwybr 2 Taith Youth Cymru, wedi ei lywio gan arferion ar draws Cymru, y DU ac Iwerddon. Mae’n tynnu profiadau sefydliadau fel Youth Work Ireland, YouthAction Northern Ireland, Youth Scotland, ac UK Youth ynghyd. Mae’n adlewyrchu ffocws cenedlaethol a rhyngwladol cynyddol ar gryfhau’r cydweithio rhwng addysg ffurfiol ac anffurfiol.