Enillwch 5 lle am ddim i gynrychioli eich Safle Treftadaeth y Byd lleol yn Uwchgynhadledd Ieuenctid Treftadaeth y Byd UNESCO 2015 fawreddog y DU drwy gymryd rhan yn ein cystadleuaeth greadigol!
Bydd Safle Treftadaeth y Byd Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon yn falch o gynnal Uwchgynhadledd Ieuenctid Treftadaeth y Byd UNESCO 2015 o 20 – 22 Hydref 2015. Bydd yr Uwchgynhadledd yn croesawu cynrychiolwyr ieuenctid o bob cwr o’r DU am 2 ddiwrnod o weithgareddau ymarferol a gweithdai hwyliog i drafod sut y gallwn ddefnyddio Treftadaeth y Byd i newid y lle rydym yn byw ynddo er gwell.
Os ydych chi rhwng 13 a 17 oed (neu hyd at 25 oed ac mewn addysg arbennig) ar 25 Hydref 2015, gallech chi a 3 o’ch ffrindiau (ynghyd ag un oedolyn goruchwylio) ennill y cyfle i fynd i Uwchgynhadledd Ieuenctid Treftadaeth y Byd UNESCO y DU yng Nghymru am ddim! Os byddwch chi’n ennill, byddwch chi’n derbyn 2 noson o lety am ddim, bwyd, eich holl weithgareddau yn yr Uwchgynhadledd, a bag anrhegion a chrys-t!
Felly, ydych chi’n ddigon creadigol? A allech chi ennill lleoedd am ddim i gynrychioli eich ysgol, grŵp, sefydliad a’ch Safle Treftadaeth y Byd agosaf neu leol, a’r DU, yn yr Uwchgynhadledd? Dewch ymlaen…beth ydych chi’n aros amdano?!
Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau: 24 Gorffennaf 2015.
www.visitblaenavon.co.uk/youthsummit
Sut ydw i’n cystadlu i ennill lle?
I ennill y cyfle i gymryd rhan bydd angen i chi a’ch grŵp:
- Creu darn o gyfryngau creadigol neu waith celf yn seiliedig ar eich Safle Treftadaeth y Byd lleol neu gerllaw gan ateb y cwestiwn ‘Sut allwn ni ddefnyddio Treftadaeth y Byd i wneud y lle rydyn ni’n byw ynddo yn well?
Gallwch gystadlu mewn un o bedwar categori gydag unrhyw un o’r ffurfiau celf canlynol:
- Ysgrifennu Creadigol – Blogiau, Rapio, Llenyddiaeth, Ysgrifennu Caneuon, Adrodd Storïau, Barddoniaeth
- Perfformiad – Cân, Theatr, Dawns, Cerddoriaeth
- Celfyddydau Gweledol – Modelu 3D, Lluniadu, Peintio, Posteri, Cerflunwaith
- Ffilm a Chyfryngau Digidol – Ffotograffiaeth, Ffilm, Animeiddio, Celf Ddigidol, Gemau
- Ewch i weld eich Safle Treftadaeth y Byd lleol, (byddwn ni eisiau gweld llun o’ch grŵp yno!) a gwnewch ychydig o ymchwil arno – byddwn ni eisiau gweld hyn yn dod i’r amlwg yn eich gwaith celf mewn rhyw ffordd.
- Ysgrifennwch 200 gair yn egluro eich gwaith celf a sut mae’n ateb y cwestiwn.
- Dywedwch wrthym sut y cyfrannodd pob un o’ch 4 tîm at y gelf (uchafswm o 200 gair)
- Llwythwch lun ohonoch chi a’ch grŵp i fyny yn eich Safle Treftadaeth y Byd.
- Dilynwch y gofynion digidol ar gyfer maint, hyd a llwytho i fyny eich celf.
Rhaid cyflwyno pob cais yn electronig drwy lenwi’r ffurflen ar-lein a geir ar ein gwefan www.visitblaenavon.co.uk/youthsummit
Amserlen
- Mae’r gystadleuaeth yn agor ar gyfer cyflwyniadau: 1 Mehefin 2015.
- Dyddiad Cau’r Gystadleuaeth: 24 Gorffennaf 2015.
- Beirniadu: Dechrau mis Awst 2015.
- Pob cofnod wedi cael gwybod am y canlyniad: 1af Medi 2015.
Telerau ac amodau
- Rhaid i chi gael 4 mewn grŵp. Rhaid i un ohonoch fod yr arweinydd enwol, y gallwn gysylltu ag ef/hi.
- Rhaid i chi gael oedolyn y gallwn ni gysylltu ag ef/hi ac a all eich hebrwng i’r UWCHGYNHADLEDD os byddwch chi’n ennill. Rhaid i’w manylion fod ar ffurflen gais y gystadleuaeth.
- Rhaid i chi a’ch grŵp cyfan fod rhwng 13 a 17 oed (neu hyd at 25 mewn addysg arbennig) ar 25 Hydref 2015.
- Rhaid i chi gyflwyno llun o’ch grŵp yn eich Safle Treftadaeth y Byd y gellir ei ddefnyddio mewn cyhoeddusrwydd.
- Rhaid i chi archwilio eich Safle Treftadaeth y Byd lleol.
- Os nad ydych chi’n gweithio’n uniongyrchol gyda staff yn eich Safle Treftadaeth y Byd dewisol, rhaid i chi roi gwybod iddyn nhw eich bod chi’n cyflwyno cais.
- Rhaid i’ch grŵp cyfan allu mynychu’r Uwchgynhadledd Ieuenctid os byddwch chi’n ennill dros eich rhanbarth.
- Rhaid i chi gyflwyno pob cofnod yn electronig (gweler y gofynion mynediad digidol).
- Bydd eich cofnod yn cael ei bostio ar gyfryngau cymdeithasol a gwefan i ennill “hoffiannau” neu bleidleisiau a fydd yn cael eu cyfrif wrth feirniadu eich darn.
- Rhaid inni gael caniatâd i ddefnyddio eich cofnod mewn unrhyw gyfryngau sydd eu hangen arnom, cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. (Os na ellir crybwyll un o’ch grŵp yn y cyfryngau, rhowch wybod i ni, a byddwn yn cadw eu henw a’u llun allan o’r cyfryngau)