Mae Hub Cymru Africa a CEWC yn dod â’r Uwchgynhadledd Datblygu Rhyngwladol Ieuenctid i chi yng Nghanolfan Breswyl yr Urdd, Caerdydd.
CYMRAEG ISOD
(Addas ar gyfer oedrannau 16-24)
Beth sydd ar yr agenda?
- Sut i ymuno â’r sector datblygu rhyngwladol
- Gwirfoddoli yng Nghymru ac Affrica
- Sut i ddylanwadu ar eich AC/AS
- Sut i gyflawni gwaith ieuenctid byd-eang
- Sut i ymgysylltu â rhaglen Gwasanaethau Dinasyddion Rhyngwladol (ICS).
- Stondinau sefydliadau ieuenctid a gwirfoddoli (Lattitude, Progresio, VSO, YCare, Safe Foundation ac UNA Exchange)
- Arddangosfa o weithgareddau pobl ifanc sy’n ymwneud â’r Nodau Datblygu Cynaliadwy (SDGs)
- Hunluniau Nodau Datblygu Cynaliadwy
Bydd y diwrnod yn cyrraedd uchafbwynt gyda rownd derfynol Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru blynyddol CEWC, gyda dau dîm dadlau yn brwydro am y teitl cenedlaethol.
Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru – Cynulliad Cenedlaethol Cymru
- Siambr Hywel, Ty Hywel, Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
- 4ydd o Ragfyr 14.00 – 16.00
- Noddwyd yn garedig gan Julie Morgan AM
- Bydd eich presenoldeb yn y digwyddiad hwn yn ein helpu i gynyddu ymgysylltiad pobl ifanc yn y sector datblygu trwy drafodaeth amserol.
Mae Hub Cymru Africa (HCA) yn bartneriaeth newydd sy’n cefnogi cymunedau, elusennau a grwpiau Cymru sy’n gweithio ar brosiectau datblygu yn Affrica. Nod y gynhadledd hon yw cynyddu ymgysylltiad pobl ifanc yn y sector. Noddir Pencampwriaethau Dadlau Ysgolion Cymru yn garedig gan Sefydliad Jane Hodge.
Os oes angen llety arnoch ar gyfer y digwyddiad ewch i: http://www.urdd.cymru/cy/canolfannau-preswyl/caerdydd/
Cofrestrwch yma http://www.eventbrite.co.uk/e/wales-youth-international-development-conference-cynhadledd-datblygu-ieuenctid-cymru-tickets-19377830613