Rhaid i bob gweithiwr a fydd yn gweithio gyda phobl ifanc ar eu Heriau Ieuenctid a Gwobrau Cyflawniad Ieuenctid ymgymryd â’n Cwrs Hyfforddi Gweithwyr Gwobrau (a elwid gynt yn Hyfforddiant Cychwynnol).
Nid yw’r cwrs hwn wedi’i achredu, ond mae’n rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar eich gweithwyr er mwyn cyflwyno’r gwobrau a helpu pobl ifanc i gynhyrchu gwaith o’r safon a’r ansawdd gofynnol.
BYDD EIN CWRS HYFFORDDI GWEITHWYR GWOBRAU NESAF AR DDYDD IAU 14 IONAWAR 2016, 10AM-3PM
COST £100 Y PEN
I FWCIWCH, CLICIWCH YMA
Bydd Cyfarfod Cymedroli Allanol yn gofyn i’r rhai sy’n bresennol edrych ar bortffolios a grëwyd gan bobl ifanc o sefydliadau heblaw eu sefydliadau eu hunain. Bydd y rhai sy’n bresennol yn gweithio mewn grwpiau bach ac yn cwblhau ‘Ffurflen Adborth Cyfarfod Dilysu’ ar gyfer portffolios pob sefydliad y maent yn edrych arnynt.
Caiff portffolios gan sefydliad eu pasio neu eu gohirio ar sail popeth neu ddim byd.
Mae’r diwrnod cymedroli hefyd yn gyfle arall i gwblhau unrhyw fanylion a adawyd yn wreiddiol oddi ar y Ffurflen Gymedroli Allanol.
BYDD EIN CYFARFOD CYMEDROLI ALLANOL NESAF AR DDYDD IAU 21AIN IONAWAR 2016, 10AM-12PM
AM DDIM
I FWCIWCH, CLICIWCH YMA
Anfonwch eich ffurflen Cymedroli Allanol i wenna@youthcymru.org.uk
Yna byddwn yn e-bostio pa ffeiliau i’w dwyn i’r cyfarfod
Mae Cymedrolwr Asiantaeth yn gweithredu fel gwiriwr mewnol a bydd gofyn iddo wirio portffolios sefydliad cyn iddynt gael eu cyflwyno i’w cymedroli’n allanol. Gall Cymedrolwr Asiantaeth hefyd lofnodi Heriau Ieuenctid yn uniongyrchol, nad oes angen eu gwirio’n allanol.
BYDD EIN CWRS CYMEDROL ASIANTAETH NESAF AR DDYDD IAU 21AIN IONAWAR 2016, 1PM-3PM
COST £50 Y PEN
I FWCIWCH, CLICIWCH YMA
Felly… beth sy’n newydd?………………
Deunyddiau Dysgwyr
Hyd yr Her
Ardystio Her
Prisio
Credwn y bydd y newidiadau hyn yn……….
– Creu mwy o hyblygrwydd o fewn pob lefel o’r Gwobrau
– Galluogi mwy o bobl ifanc i gymryd rhan yn y broses Gwobrau
– Galluogi pobl ifanc i ennill cydnabyddiaeth genedlaethol am Wobrau a gwblhawyd yn rhannol
– Gwneud y taliadau’n fwy tryloyw a sicrhau mai dim ond am yr hyn maen nhw ei eisiau mae sefydliadau’n talu
EIN CYFARFOD ATOLYGU NESAF AR DDYDD LLUN 25AIN IONAWAR 2016, 6PM-7.30PM
AM DDIM
I FWCIWCH, CLICIWCH YMA