Hoffai Ieuenctid Cymru eich gwahodd i’r Prosiect Cerddoriaeth Mawr, sy’n cynnig cyfle gwirfoddoli a pherfformio anhygoel i bobl ifanc.
Mae’r Prosiect Cerddoriaeth Mawr wedi’i ariannu gan y Loteri Fawr ac mae yn ei ail flwyddyn. Yn 2014/15 roedd y Prosiect Cerddoriaeth Mawr yn llwyddiant ysgubol ledled y DU gyda miloedd o bobl ifanc yn cymryd rhan a’r enwau mwyaf yn y diwydiant cerddoriaeth, gyda’r rhai fel Plan B, Ellie Goulding, Union J a Chase & Status.
Nod y prosiect yw helpu pobl ifanc i “gael eu troed yn y drws” yn y diwydiant cerddoriaeth. Y rhan bwysicaf o’r prosiect hwn yw nad oes angen i chi allu canu/chwarae offeryn na hyd yn oed dawnsio; y cyfan sydd ei angen arnoch chi yw angerdd a phenderfyniad i gyrraedd eich nod. Mae’r Prosiect Cerddoriaeth Mawr yn rhoi cyngor i bobl ifanc ar bopeth, o wallt a cholur i oleuadau llwyfan i ddod yn rheolwr band. Efallai y byddwn ni’n dod o hyd i Louis Walsh o Gymro?
Hoffem wahodd pobl ifanc o bob cwr o Gymru i fynychu’r digwyddiad AM DDIM, ar ddydd Sadwrn 27 Chwefror 2016 yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd. Bydd cyfle ganddyn nhw i siarad â phobl sydd eisoes yn y diwydiant cerddoriaeth, cymryd rhan mewn gweithdai ynghylch cynllunio gwyliau, dysgu sut i fod yn DJ a recordio eich sain eich hun. Bydd perfformiadau gan bobl ifanc ledled Cymru ar lwyfan cymunedol a bydd cyfle gan bobl ifanc i ofyn cwestiynau i arbenigwyr o Global, BPI ac enwau mawr eraill yn y diwydiant yn ystod y sesiynau Holi ac Ateb.
Yn ogystal, mae gennym lawer o gyfleoedd gwirfoddoli a pherfformio drwy gydol y dydd. Rydym yn chwilio am wirfoddolwyr i ffilmio, blogio, adrodd a ffotograffio’r diwrnod ynghyd â phrofiad gwaith ieuenctid ar gael. Byddant yn derbyn 2 awr o hyfforddiant gan arbenigwyr fel Radio Caerdydd cyn y digwyddiad. Hefyd, os oes gan unrhyw bobl ifanc ddiddordeb mewn perfformio ar y diwrnod, gallwn ddarparu ar gyfer hyn hefyd. Cysylltwch ag Ieuenctid Cymru ar 01443 827840 neu e-bostiwch Lizzy@youthcymru.org.uk am ragor o wybodaeth a ffurflenni cais neu cliciwch yma i wneud cais.
Mae hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc wella eu CV a rhoi cipolwg iddyn nhw ar sut y gallen nhw gyflawni eu breuddwydion yn y diwydiant cerddoriaeth.
Y llynedd daeth dros 1000 o bobl ifanc i’r digwyddiad ac roedd yn llwyddiant ysgubol. Anfonwch yr e-bost hwn ymlaen at athrawon a phobl ifanc yn eich ysgol/coleg am y cyfle gwych hwn i gael cyngor gyrfa.
Edrychwn ymlaen at glywed gennych, |