Manylion y Cwrs:
Mae’r cwrs hyfforddi hwn yn rhedeg dros ddau ddiwrnod a bydd yn cefnogi cyfranogwyr i ddatblygu eu dealltwriaeth o sut i ddiogelu plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o gyd-destunau. Wedi’i fwriadu i hyrwyddo a datblygu dealltwriaeth unigolion o faterion diogelu, mae’r hyfforddiant yn ymateb i gyd-destunau sefydliadol penodol gan alluogi ymarferwyr i weithio’n fwy effeithiol ac ymatebol o fewn fframwaith diogelu.
Cynnwys:
Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu:
- Deddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau cyfredol ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc gan gynnwys e-ddiogelwch.
- Rolau gwahanol asiantaethau sy’n ymwneud â diogelu lles plant a phobl ifanc yng nghyd-destun eu lleoliad gwaith eu hunain.
- Y camau y gall ymarferwyr eu cymryd i amddiffyn eu hunain rhag honiadau a chwynion yn eu hymarfer bob dydd mewn lleoliad gwaith.
- Ffyrdd y gellir adrodd pryderon ynghylch arfer gwael gan sicrhau bod chwythwyr chwiban a’r rhai y mae eu harfer neu eu hymddygiad yn cael ei gwestiynu yn cael eu diogelu.
- Ffordd o gael mynediad at gymorth lle nad yw pryderon wedi cael sylw.
- Nodweddion gwahanol fathau o gam-drin plant
- Camau i’w cymryd mewn ymateb i dystiolaeth (gan gynnwys honiadau) neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin, ei niweidio (gan gynnwys hunan-niweidio) neu ei fwlio neu efallai ei fod mewn perygl o niwed, cam-drin neu fwlio.
Disgrifiad o egwyddorion a ffiniau cyfrinachedd a phryd i rannu gwybodaeth
Canlyniadau Dysgu:
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i:
- Gwybod am y ddeddfwriaeth, canllawiau, polisïau a gweithdrefnau ar gyfer diogelu lles plant a phobl ifanc gan gynnwys e-ddiogelwch.
- Deall sut i ddiogelu plant, pobl ifanc ac ymarferwyr mewn lleoliad gwaith.
- Gwybod sut i ymateb i dystiolaeth neu bryderon bod plentyn neu berson ifanc wedi cael ei gam-drin, ei niweidio neu ei fwlio.
Achrediad:
Mae’r achrediad yn ddewisol.
Bydd dysgwyr yn cael arweiniad a chefnogaeth wyneb yn wyneb yn ystod y sesiynau hyfforddi a chefnogaeth tiwtora o bell wrth gyflwyno aseiniadau ysgrifenedig. Mae’r cwrs yn gofyn i gyfranogwyr fyfyrio ar eu harfer unigol eu hunain, felly bydd ffocws ar brofiad cyfredol ac archwiliad o ddatblygiad yn y dyfodol ac anghenion sefydliadol, proffesiynol ac unigol cysylltiedig.
Manylion achredu:
Corff Dyfarnu: Agored Cymru
Teitl: Deall sut i ddiogelu lles plant a phobl ifanc
Cod: PT22CY071
Lefel : 2
Credyd: 3
Dyddiadau’r Cwrs Cyfredol:
Sesiwn 1 : 2il Mawrth 2017
Sesiwn 2 : I’w gadarnhau
Amser y Cwrs:
10am – 4pm
Lleoliad:
Ieuenctid Cymru
Cost, Asesiad ac Achrediad: Mae cost y cwrs hwn ar gyfradd ostyngedig o £40.00 y cyfranogwr . Er mwyn darparu’r cyfle hyfforddi pris gostyngedig hwn, mae achrediad i gyfranogwyr yn orfodol a byddwn yn gorfod codi tâl ar unrhyw bresenoldeb heb achrediad am gyfradd lawn y cwrs o £160. Bydd yr achrediad yn gofyn am aseiniad ysgrifenedig a fydd yn cael ei anfon yn electronig ar ôl y ddau ddiwrnod hyfforddi. Darperir cefnogaeth tiwtor o bell i ganiatáu cwblhau’n llwyddiannus. |
I archebu eich lle cliciwch yma
Mae’r cwrs hwn hefyd ar gael i sefydliadau. Am fwy o fanylion ynglŷn â chomisiynu’r hyfforddiant hwn ar gyfer eich tîm, e-bostiwch: training@youthcymru.org.uk