Pwy sy’n Penderfynu

hwyl a sbri

Pwy sy’n penderfynu a sut i gael ei glywed?
Dyddiad y Cwrs :

I’w gadarnhau

Amser y Cwrs:

10am – 4pm

Lleoliad:

Ieuenctid Cymru

Crynodeb:

Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr ddysgu sut mae polisi pobl ifanc yn cael ei lunio a sut y gellir dylanwadu arno.

Gellir achredu’r hyfforddiant hwn gan Uned Agored Cymru: Dylanwadu ar Bolisi a Phenderfyniadau Pobl Ifanc, Lefel: Dau
Gwerth Credyd: 1

Cynnwys:

Bydd yr hyfforddiant yn cwmpasu:

· Ble mae polisïau pobl ifanc yn cael eu creu a phwy yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r polisïau hynny.

· Sut mae polisi yn effeithio ar bobl ifanc a’r rhai sy’n gweithio gyda’r bobl ifanc hynny

· Y cysylltiad rhwng llunio polisïau a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (CCUHP).

· Sut mae arfer da yn dylanwadu ar benderfyniadau polisi sy’n effeithio ar bobl ifanc.

Canlyniadau Dysgu:

Bydd cyfranogwyr yn:

· Gwybod pwy sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â pholisi pobl ifanc.

· Gwybod y berthnasoedd rhwng datblygu polisi a phobl ifanc.

· Gwybod sut mae arfer da yn effeithio ar lunio polisïau pobl ifanc.

Asesu ac Achredu:

Mae achrediad i gyfranogwyr yn ddewisol. Bydd y rhai sy’n dewis ardystiad yn gallu ennill achrediad Lefel 2 mewn Dylanwadu ar Bolisi a Gwneud Penderfyniadau Pobl Ifanc, Lefel 2, Credyd 1. Bydd angen cyflwyno aseiniad ysgrifenedig, a bydd manylion amdano’n cael eu hanfon yn electronig ar ôl y cwrs hyfforddi. Darperir cefnogaeth tiwtor o bell i ganiatáu cwblhau’n llwyddiannus.

Daw achrediad am gost ychwanegol.

Gwybodaeth Bellach:

Am fwy o fanylion am y cwrs cysylltwch â Julia Griffiths yn Julia@youthcymru.org.uk