Prosiect Tri ar Ddeg

manon-p13

Croeso i Brosiect 13

Mae colli rhywun agos atoch chi yn ifanc yn anodd, trwy ein profiad personol ein hunain fe wnaethon ni sefydlu Project 13, cymuned ar-lein sy’n helpu pobl ifanc i ymdopi â galar a cholled.

Stori Prosiect 13

Fy enw i yw Manon Gravell, a dechreuais Brosiect 13 ar ôl fy mhrofiad fy hun o golled yn ifanc. Rwyf am roi lle i bobl ifanc, sy’n galaru oherwydd colli anwylyd, y gallant droi ato pan fyddant yn teimlo ar eu gwaethaf. Mae pawb yn galaru’n unigol, ond rydym i gyd yn rhannu’r un emosiynau ac mae Prosiect 13 yn rhoi’r gefnogaeth a’r hyder i unigolion siarad ag eraill mewn sefyllfa debyg. Mae Prosiect 13 yn ymwneud â dod â phobl ynghyd yn eu colled a deall nad oes angen teimlo ar eu pen eu hunain.

Manon

 

Am ragor o wybodaeth ewch i www.projectthirteen.cymru