Dewiswyd un ar ddeg o dimau o bobl ifanc o Gymru yn dîm Cenedlaethol
Rownd derfynol cystadleuaeth rheoli arian ledled y DU
Timau’n cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol Her Arian am Oes, cystadleuaeth rheoli arian a gynhelir gan Grŵp Bancio Lloyds, gyda Cholegau Cymru ac Ieuenctid Cymru.
Mae un ar ddeg o dimau o bobl ifanc o Gymru yn dathlu heddiw ar ôl cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru o Her Arian am Oes Grŵp Bancio Lloyds, cystadleuaeth genedlaethol i ysbrydoli sgiliau rheoli arian gwell mewn cymunedau lleol ledled y DU a gefnogir gan CollegesWales ac Ieuenctid Cymru.
Mae’r timau wedi cael eu dewis o blith 80 o geisiadau o bob cwr o Gymru i gyrraedd rownd derfynol Her Arian am Oes ym Mhrofiad Doctor Who ym Mhorth Teigr, Caerdydd ar 28 Ebrill 2015.
Bydd pump o’r timau yn cyflwyno eu prosiectau rheoli arian i banel o feirniaid proffil uchel, gan obeithio cael eu coroni’n Her Arian am Oes: Enillydd Cymru 2015.
Y pum tîm yw:
DOSH – (Diffinio Ein Harferion Gwario)
Datrysiadau Dysgu Acorn
Aeth y tîm i’r afael â phroblemau a brofir gan fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i fynychu prifysgol, a chyflenwodd wybodaeth i gynnig gwybodaeth i fyfyrwyr newydd sy’n symud o addysg bellach i addysg uwch er mwyn adeiladu’r sylfaen i wneud penderfyniadau gwybodus ar eu harferion gwario.
Byddwch yn wybodus gyda’ch toes
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Aeth y prosiect i’r afael â’r angen i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent arbed arian. Tynnodd y tîm sylw at y ffaith bod arbed arian yn arbennig o bwysig lle mae’n rhaid i bobl ifanc fyw ar incwm isel iawn. Fe wnaethant ymchwilio i hyn drwy ddysgu awgrymiadau arbed arian i helpu eu cyfoedion a hefyd berswadio sawl busnes lleol i gynnig gostyngiadau, cynigion arbennig neu bethau am ddim i bobl ifanc lleol.
Prosiect Teuluoedd Radiate
Tai Siarter, Casnewydd
Gweithiodd y tîm i ddylunio ac adeiladu ap symudol wedi’i seilio ar effeithlonrwydd ynni i helpu teuluoedd ifanc i weld sut y gallant arbed arian trwy fabwysiadu arferion ffordd o fyw sy’n fwy effeithlon o ran ynni. Cynhaliodd y tîm bedair sesiwn wyneb yn wyneb gyda datblygwr apiau i wireddu eu syniadau a gweithio gyda theuluoedd lleol i fesur ei effaith.
Banc-C
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
Edrychodd Banc-C ar sut i helpu pobl ifanc ym Mhen-y-bont ar Ogwr i arbed arian drwy eu hannog i siopa mewn siopau elusen lleol. Gweithiodd y tîm gydag elusen Gofal Canser Tenovus ym Mhen-y-bont ar Ogwr i gynnal ymgyrch rhoi i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i roi i siopau elusen a chynhaliodd hyrwyddiadau yn yr ardal leol i annog mwy o bobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc i siopa ynddynt.
Gwerth am Arian yn y Gampfa
Coleg Gwent, Crosskeys
Edrychodd y prosiect ar gost defnyddio campfeydd a cheisiodd gymharu pris campfeydd coleg â dewisiadau amgen preifat ac awdurdod lleol. Cynhyrchwyd taflenni a phosteri ganddynt, a ddosbarthwyd ar draws campws y coleg, a defnyddiwyd e-bost a’r fewnrwyd i hyrwyddo gwybodaeth am y gwahaniaethau mewn cost. Nod y tîm oedd hyrwyddo ffyrdd o arbed arian a phwysigrwydd cadw’n heini.
Ochr yn ochr â’r pum tîm a fydd yn cyflwyno eu prosiectau ar y llwyfan, bydd chwe thîm arall yn y ras am Wobr y Bobl, y pleidleisir drosti gan y mynychwyr yn y Rownd Derfynol Genedlaethol. Nhw yw:
- Cymuned Therapi Harddwch o Goleg Gwent
- Ailgylchu Splott gan Global Love Trust
- Arbedion Sassy gan Youth Cymru
- Arbed cyn Gadael o Grŵp NPTC
- Gofalwyr Ifanc o YMCA
- Talwyr Pensiwn Ifanc o Hyfforddiant ISA
Ymgymerodd y grwpiau â’u prosiectau dros gyfnod o dri mis ar ôl derbyn grant o £500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith.
Bydd enillydd rownd derfynol genedlaethol Cymru yn ennill £1,000 i’w roi i’r elusen o’u dewis.
Dywedodd Rachel Dodge, Rheolwr Prosiect Arian am Oes yng Nghymru: “Mae sgiliau rheoli arian yn hanfodol i’n bywydau bob dydd ac rydym wrth ein bodd bod cynifer o dimau o Gymru wedi cymryd rhan yn Her Arian am Oes eleni. Rydym yn falch o gyhoeddi’r un ar ddeg o ymgeiswyr terfynol cenedlaethol a fydd yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru eleni. Mae pob tîm wedi dyfeisio prosiect gwirioneddol arloesol i helpu eu cymuned. Pob lwc iddyn nhw.”
Dywedodd David Rowsell, Pennaeth y Rhaglen Arian am Oes yn Lloyds Banking Group: “Mae Her Arian am Oes yn helpu pobl ifanc i greu prosiect rheoli arian er budd eu cymuned leol ac yn eu galluogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian eu hunain yn fwy effeithiol hefyd. Mae Arian am Oes yn un o’r rhaglenni craidd sydd wrth wraidd nod Lloyds Banking Group i helpu Prydain i ffynnu.
“Rwyf wedi fy argraffu’n fawr gan arloesedd a brwdfrydedd yr holl dimau sydd wedi cymryd rhan yn yr Her eleni. Mae wedi bod yn benderfyniad anodd i’n beirniaid benderfynu pa grwpiau fydd yn cyrraedd ein rowndiau terfynol cenedlaethol. Rwy’n dymuno’r gorau i bob tîm.”
Bydd enillydd rownd derfynol Cymru yn mynd i Rownd Derfynol Fawr Her Arian am Oes y DU yn Amgueddfa Ffilm Llundain yng Ngardd Covent Llundain ar 28 Mai, lle byddant yn cystadlu yn erbyn timau o Loegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i hawlio teitl Enillwyr Her Arian am Oes y DU 2015. Mae gan y timau’r cyfle i ennill £3,000 i’w roi i elusen o’u dewis.
Am ragor o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i www.moneyforlifechallenge.org.uk , neu ar Facebook yn www.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter yn www.twitter.com/moneyforlifeuk .
// DIWEDD
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â: Donna McGrory / Joe Ogden yn Four Communications ar 020 3697 4307 / arianamoes@fourcommunications.com
Neu, James Birch, Grŵp Bancio Lloyds, james.birch@lloydsbanking.com / 02073562239
Nodiadau i Olygyddion
Ynglŷn ag Arian am Oes
Arian am Oes yw rhaglen rheoli arian personol arobryn Grŵp Bancio Lloyds, wedi’i thargedu at bobl ifanc ac oedolion mewn addysg bellach, hyfforddiant a sefydliadau cymunedol. Mae Grŵp Bancio Lloyds wedi buddsoddi £10 miliwn yn y rhaglen rhwng 2010 a 2015.
Mae Cymwysterau Arian am Oes yn darparu hyfforddiant achrededig, wedi’i ariannu’n llawn i alluogi gweithwyr cymorth cymunedol ledled y DU i ymgorffori sgiliau rheoli arian personol ar lefel leol. Mae’r dull hyfforddi-yr-hyfforddwr hwn yn sicrhau effaith gynaliadwy mewn cymunedau a sefydliadau lleol.
Mae Her Arian am Oes yn gystadleuaeth genedlaethol sy’n darparu grantiau gwerth £500 i rymuso timau o bobl 16 i 24 oed mewn addysg bellach, hyfforddiant a sefydliadau cymunedol i gynnal prosiect rheoli arian yn eu cymuned.
Bydd Her Arian am Oes 2014/15 yn cael ei chyflwyno gyda’n partneriaid Colegau Cymru, Ieuenctid Cymru, Academi Sgiliau Genedlaethol ar gyfer Gwasanaethau Ariannol, Ieuenctid y DU, Young Scot a NOW Group. Mae ein partneriaid yn allweddol wrth gyflwyno a chydlynu’r Her.
Dyfarnwyd Tic Mawr i Arian am Oes ac fe’i rhoddwyd ar y rhestr fer yng Ngwobr Adeiladu Cymunedau Cryfach Busnes yn y Gymuned 2014.