Mae Hub Cymru Africa ac Youth Cymru wedi ymuno i roi cyfle i bobl ifanc yng Nghymru ymgysylltu â materion datblygu a dysgu mwy am y nodau datblygu cynaliadwy (SDGs) sydd ar ddod. Yn debyg i’r Nodau Datblygu Mileniwm, a ddaeth i ben eleni, bydd y SDGs yn cael eu defnyddio i nodi arferion datblygu byd-eang mewn nifer o feysydd.
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am y Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Grantiau Gweithgaredd
Mae’r grant hwn i ganiatáu i bobl ifanc ymgysylltu â materion datblygu trwy ffyrdd hwyliog, creadigol ac addysgiadol.
Ar ôl darllen beth yw Nodau Datblygu Cynaliadwy o’r ddogfen sydd ynghlwm , rydym yn annog grwpiau ieuenctid i feddwl yn greadigol am y nodau a ddarperir a llunio gweithgaredd neu ddull adrodd stori sy’n dangos y nod(au) hwnnw. Bydd y 4 grŵp llwyddiannus yn cael hyd at £250 i dalu am ddeunyddiau ac unrhyw gostau eraill.
Bydd y grant hwn ar agor o 8 Hydref i 25 Hydref 2015 .
Cliciwch yma i wneud cais am y grant.