Gwobrau Ieuenctid y Flwyddyn

Mae pump o bobl ifanc ysbrydoledig wedi derbyn gwobr ‘Ieuenctid y Flwyddyn 2015’ am oresgyn anawsterau er mwyn cyflawni eu hamcanion personol.

Gwahoddwyd yr enillwyr a’u gweithwyr ieuenctid priodol o Loegr, yr Alban, Cymru, Gogledd Iwerddon a Gweriniaeth Iwerddon i seremoni wobrwyo yn Buckingham Place lle cyflwynwyd eu gwobr iddynt gan Ei Huchelder Brenhinol y Dywysoges Frenhinol. Derbyniodd pob enillydd hefyd daleb Amazon gwerth £250, ynghyd â grant bach gwerth £750 ar gyfer y grŵp ieuenctid cefnogol i helpu i barhau i ariannu eu gwaith gwych.

 

Y-DU-233

Daeth Gwobrau Ieuenctid y Flwyddyn yn eu blwyddyn gyntaf i ffrwyth i ddathlu a hyrwyddo’r gwaith gwych y mae pobl ifanc yn ei wneud y tu allan i addysg ffurfiol a chydnabod y rhan werthfawr y mae grwpiau ieuenctid yn ei chwarae wrth eu cefnogi. Daeth Ieuenctid Cymru a phartneriaid cenedlaethol, UK Youth, Youth Scotland, Youth Work Ireland a Youth Action Northern Ireland, ynghyd i gefnogi’r Gwobrau.

Dyfarnwyd Gwobr Ieuenctid y Flwyddyn Cymru i Jodie (19 oed). Mae Jodie wedi bod yn ofalwr i’w mam ers pan oedd hi’n 11 oed. Cyfeiriwyd Jodie at brosiect Gofalwyr Ifanc Pen-y-bont ar Ogwr gan ei hysgol a phan ymunodd roedd hi’n ferch ifanc dawel. Er bod rôl ofalu Jodie yn un o’r rhai mwyaf heriol, gweithiodd yn galed a chyflawnodd 10 TGAU a 4 Lefel A. Pan oedd hi’n 17 oed, ymunodd â Grŵp Llais Gofalwyr Oedolion Ifanc lle cymerodd ran mewn nifer o ymgynghoriadau â Chynghrair Gofalwyr Cymru; a chyfrannodd at y Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant. Yn 2014, derbyniwyd Jodie i’r Brifysgol, cafodd swydd ran-amser ac mae’n parhau â’i rôl ofalu gan deithio adref cymaint â phosibl. Mae Jodie wedi cefnogi’r prosiect wrth gynnal gweithdai a hyfforddiant i ofalwyr ifanc ac mae’n cynrychioli gofalwyr ifanc yng Nghymru yn rheolaidd. Ym mis Mehefin 2015, roedd Jodie yn siaradwr gwadd mewn digwyddiad Amser i gael ei Chlywed Ymddiriedolaeth y Gofalwyr lle siaradodd am gymryd y cam i fynd ymlaen i addysg bellach a symud i ffwrdd o’i rôl ofalu. Mae Jodie wedi gwneud cymaint i’r prosiect ac mae’n fodel rôl ardderchog i ofalwyr ifanc. Mae hi’n enghraifft o’r hyn y gall gwaith caled ei gyflawni.

Y-DU-214

Y-DU-258

Mae rhagor o wybodaeth am yr holl enillwyr a’r Gwobrau ar gael yn: http://www.ukyouth.org/latest-news-hidden/item/1004-youth-of-the-year-awards#.VmgYmPmyOkp