Gweithdai Senedd i Bobl Ifanc

Canlyniad delwedd ar gyfer addysg seneddol

 

Mae Ieuenctid Cymru wedi derbyn cyllid gan Wasanaeth Addysg y Senedd i hysbysu, ymgysylltu a grymuso pobl ifanc i ddeall, a chymryd rhan yn, y Senedd, gwleidyddiaeth a democratiaeth. Byddwn yn cynnal gweithdai i bobl ifanc ar Dŷ’r Senedd a sut mae penderfyniadau’n cael eu gwneud yn San Steffan, yn ogystal ag ar ddatganoli a’r Cynulliad Cenedlaethol.

Bydd gweithgareddau’r gweithdy yn grymuso pobl ifanc i gydnabod sut mae eu bywydau a’u profiadau bob dydd yn cael eu llunio gan wleidyddiaeth a sut y gallant effeithio ar newid yn eu cymunedau yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn cael gwybod mwy am y prosiect, cysylltwch â Lizzy Fauvel ar lizzy@youthcymru.org.uk / 01443 827840

Am adnoddau am ddim a rhagor o wybodaeth am Dŷ’r Senedd, ewch i http://www.parliament.uk/education/