dim llawer o amser ar ôl i wneud cais!!
Mae Ieuenctid Cymru wedi partneru â Grow Wild i ddarparu cyllid i bobl ifanc 12-25 oed.
Ydych chi rhwng 12 a 25 oed? Oes gennych chi syniad gwych i gyfleu pwysigrwydd blodau gwyllt brodorol a mannau gwyllt mewn ffordd greadigol? Neu ydych chi eisiau gweithio gydag eraill i helpu i drawsnewid gofod lleol gyda phlanhigion brodorol a blodau gwyllt?
Byddwch yn Greadigol: Rydym yn chwilio am syniadau dychmygus sy’n codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd blodau a phlanhigion gwyllt brodorol y DU gan ddefnyddio celfyddyd weledol neu gerddoriaeth, barddoniaeth a dawns. Bydd ymgeiswyr buddugol yn derbyn £500 i gynhyrchu eu gwaith celf creadigol neu i recordio eu perfformiad sain, ynghyd â’r cyfle i’w arddangos neu ei berfformio yn yr awyr agored mewn digwyddiad haf proffil uchel yn y DU. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Chwefror 2016
Trawsnewid Gofod: Rydym yn chwilio am syniadau prosiect sy’n codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd blodau a phlanhigion gwyllt brodorol a’u cynefinoedd amrywiol. Gall eich prosiect gynnwys mwy na hau a thyfu – cyn belled â’i fod yn cyfleu neges am flodau gwyllt brodorol y DU a mannau gwyllt mewn ffordd greadigol. Meddyliwch yn wyllt, yn arloesol ac yn ddeniadol! Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 22 Chwefror 2016.
I gael gwybod mwy a sut i wneud cais ewch i: www.growwilduk.com/content/grow-it