Galwad i Bobl Ifanc Cymru sydd Eisiau Gwella Sgiliau Arian eu Cymuned

Anogir pobl ifanc sydd am ymgymryd â’r her o helpu eu cymunedau i ddysgu sut i reoli arian yn well i wneud cais am grant i roi eu syniadau ar waith fel rhan o gystadleuaeth ledled y DU.

Mae hyd at 80 o grantiau “Her Arian am Oes” gwerth £500 yr un ar gael yng Nghymru i grwpiau o bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed sydd mewn addysg bellach, hyfforddiant neu sefydliad cymunedol.

Mae’r grantiau i helpu grwpiau o bobl ifanc i nodi problem rheoli arian yn eu cymuned leol a llunio cynllun i fynd i’r afael â hi. Ar hyd y ffordd, byddant yn gwella eu sgiliau ariannol eu hunain gyda chymorth ‘Dysgu Fi’, cwrs ar-lein, ac yna’n mynd ymlaen i ddefnyddio eu sgiliau i helpu eu ffrindiau, eu teuluoedd a’r gymuned leol.

Mae’r Her yn rhan o raglen rheoli arian personol arobryn Grŵp Bancio Lloyds ac mae’n rhedeg ledled y DU gyfan, gyda Colegau Cymru yn cydlynu’r rhaglen yng Nghymru.

Mae’r Her bellach yn ei phedwerydd flwyddyn ac mae wedi tyfu bob blwyddyn, gyda Chymru wir yn mynd i’r afael â’r Her ac yn denu cyfran fwy o grantiau na gwledydd eraill y DU. O 40 o grantiau cychwynnol a oedd ar gael yn 2011 yng Nghymru, mae’r Her i ddyblu eleni, gydag 80 o grantiau ar gael.

Mae Her Arian am Oes yn cael effaith fawr ar bobl ifanc a’u cymunedau, gyda grantiau etifeddiaeth ar gael i dimau buddugol ledled y DU i ddatblygu eu prosiectau ymhellach er mwyn cael effaith barhaol. Yr allwedd i lwyddiant yn yr Her fydd meddwl am syniadau newydd a chreadigol sy’n seiliedig ar brofiadau aelodau’r tîm, ac sy’n mynd i’r afael ag anghenion rheoli arian eu cymuned.

Gan helpu’r Her i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd, bydd Ieuenctid Cymru yn partneru â ColegauCymru eleni.

Dywedodd Prif Weithredwr Ieuenctid Cymru, Helen Mary Jones: “O gael ychydig o help llaw, mae pobl ifanc yn dangos i ni dro ar ôl tro bod ganddyn nhw’r brwdfrydedd, y syniadau a’r gallu i fynd i’r afael â materion cymunedol cyfan ac mae’r Her yn gyfle gwych i’w helpu i brofi eu gwerth.

“Mae Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda chlybiau ieuenctid ledled Cymru gyfan ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Colegau Cymru i agor Her Arian am Oes i gynulleidfaoedd newydd.”

Dywedodd Rachel Dodge, Rheolwr Prosiect Cymru: “Dros y tair blynedd diwethaf, mae Her Arian am Oes wedi gweld amrywiaeth eang o syniadau a dulliau newydd o ymdrin ag anghenion rheoli arian cymunedau. Eleni, gyda chyfranogiad Ieuenctid Cymru, rydym yn gobeithio cyrraedd cynulleidfaoedd newydd yn y sector ieuenctid wrth barhau i weithio gyda grwpiau o gymdeithasau tai, Cymunedau yn Gyntaf, addysg bellach a lleoliadau hyfforddiant seiliedig ar waith.

“Gyda rhywfaint o arian a grymuso, mae pobl ifanc yn dangos y ffordd, a gobeithio y bydd yr Her eto eleni yn helpu i sicrhau newid parhaol yn sgiliau rheoli arian cymunedau ledled Cymru.”

Rhaid gwneud pob cais am grantiau Her Arian am Oes erbyn 21 Tachwedd 2014. Yna bydd y timau sy’n llwyddiannus i gael grant yn datblygu eu syniadau ac yn eu rhoi ar waith yn eu cymunedau erbyn 6 Mawrth 2015, gyda’r prosiectau gorau yn cael eu dewis i fynychu Rownd Derfynol Cymru ar 28 Ebrill 2015. Bydd enillwyr Rownd Derfynol Cymru yn cynrychioli Cymru yn Rownd Derfynol Fawr y DU ar 28 Mai 2015. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn http://www.moneyforlifechallenge.org.uk

———————————–Diwedd- …

Cysylltwch â: Sylvia Davies ar 029 2052 8384 neu 07968 771913.
Nodiadau i olygyddion:

1. Mae Colegau Cymru / CollegesWales yn elusen addysgol genedlaethol sy’n cynrychioli pob un o’r 15 coleg a sefydliad addysg bellach (AB) yng Nghymru. Ei chenhadaeth yw codi proffil addysg bellach gyda gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol er mwyn gwella cyfleoedd i ddysgwyr yng Nghymru. Am ragor o wybodaeth am Colegau Cymru / CollegesWales, a’r colegau y mae’n eu cynrychioli, ewch i www.colegaucymru.ac.uk neu www.collegeswales.ac.uk

2. Mae Ieuenctid Cymru yn elusen sy’n gweithio gyda grwpiau ieuenctid, gweithwyr ieuenctid a phobl ifanc ledled Cymru gyfan. Mae’n gweithio gyda chlybiau ieuenctid, darparwyr gwasanaethau, elusennau, unigolion a llawer o gwmnïau yn y sector corfforaethol i helpu i ddarparu gwasanaethau ac amwynderau i bobl ifanc yng Nghymru. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn https://youthcymru.org.uk/

3. Arian am Oes yw rhaglen rheoli arian personol arobryn Grŵp Bancio Lloyds, wedi’i thargedu at bobl ifanc ac oedolion mewn addysg bellach, hyfforddiant a sefydliadau cymunedol. Mae Lloyds wedi buddsoddi £8 miliwn yn y rhaglen rhwng 2010 a 2014.

Mae Cymwysterau Arian am Oes yn darparu hyfforddiant achrededig, wedi’i ariannu’n llawn i alluogi gweithwyr cymorth cymunedol ledled y DU i ymgorffori sgiliau rheoli arian personol ar lefel leol.
Mae Her Arian am Oes yn gystadleuaeth genedlaethol sy’n darparu grantiau gwerth £500 i rymuso timau o bobl 16-24 oed i gynnal system rheoli arian yn eu hardal.

Dyfarnwyd Tic Mawr i Arian am Oes ac fe’i rhoddwyd ar y rhestr fer yng Ngwobr Adeiladu Cymunedau Cryfach Busnes yn y Gymuned 2014