Bu farw Dennis G Frost ddydd Mawrth 16 Rhagfyr 2014, yn 89 oed.
Dennis oedd Ysgrifennydd Cyffredinol Ieuenctid Cymru o 1953 i 1987 (a elwid gynt yn Gymdeithas Clybiau Ieuenctid Cymru, tan 2003)
Parhaodd i chwarae rhan o fewn Ieuenctid Cymru tan 2013, trwy roi ei amser i redeg yr apêl lyfrau.
Roedd Dennis yn aelod staff annwyl iawn a roddodd lawer o gariad ac angerdd i’w waith. Bydd pawb yn ei golli’n fawr.
Diolchwn i Dennis am ei holl flynyddoedd fel ein Ysgrifennydd Cyffredinol a’r holl amser a roddodd i’r elusen hon ac i’r bobl ifanc.
Anfonwn ein cydymdeimlad at ei wraig a’i deulu