I bwy bynnag y mae’n ymwneud ag ef.
Rydym yn cydnabod eich sylwadau a godwyd ar Twitter ac rydym yn cyhoeddi’r ymateb canlynol:
Mae Ieuenctid Cymru yn ailadrodd ei ymrwymiad i egwyddorion a gwerthoedd allweddol gwaith ieuenctid a chymunedol.
Prif bwrpas gwaith ieuenctid, a gymeradwywyd gan Ieuenctid Cymru yw….
‘Galluogi pobl ifanc i ddatblygu’n gyfannol gan weithio gyda nhw i hwyluso eu datblygiad personol, cymdeithasol ac addysgol er mwyn eu galluogi i ddatblygu eu llais, eu dylanwad a’u lle mewn cymdeithas ac i gyrraedd eu potensial llawn ym mhob agwedd ar ein gwaith.’ (CLDSC, 2019)
Cafodd y digwyddiad hustyngau diweddar a drefnwyd gan bobl ifanc, ar gyfer pobl ifanc, ei lunio gan ddefnyddio egwyddorion a gwerthoedd allweddol Gwaith Ieuenctid a Chymunedol. Trefnwyd y digwyddiad yn dilyn canllawiau iechyd a diogelwch llym a oedd yn cynnwys cod ymddygiad y gofynnwyd i bobl ifanc ac Aelodau’r Senedd ei lofnodi cyn y digwyddiad. Yn anffodus, yn ystod yr Hustyngau, torrodd rhai pobl ifanc y cod ymddygiad a chawsant eu symud. Yn ogystal, rydym yn deall eu bod yn anfon negeseuon at bobl ifanc eraill, a oedd yn achosi gofid i’r bobl ifanc.
Os hoffech godi pryder neu dderbyn ymateb pellach, anfonwch e-bost at Gadeirydd Ieuenctid Cymru yn Chair@youthcymru.org.uk a fydd yn ymateb yn unol â hynny.