Mae gan Media Academy Cymru bedwar cyfle hyfforddi newydd cyffrous i bobl ifanc 16-25 oed gan ddechrau ddiwedd Ionawr 2023.
Mae gwneud cais am gwrs MAC on Track yn syml. Gall myfyrwyr naill ai gofrestru drwy ddilyn y dolenni perthnasol isod, neu gallant gysylltu â Sarah yn uniongyrchol: sarah@mediaacademycymru.wales (07738153357).
Gwybodaeth Allweddol
- Mae ein holl gyrsiau AM DDIM
- Mae cyrsiau hyfforddi ar gael i bobl ifanc 16-25 oed
- Mae myfyrwyr yn mynychu 3.5 – 4 diwrnod yr wythnos 9am-4pm
- Nid oes angen unrhyw brofiad neu gymwysterau blaenorol
- Lleoliad: Rhodfa Columbus, Caerdydd, dim ond 10 munud ar droed o orsaf drenau Caerdydd Canolog / Campws y Barri ar gyfer Ffotograffiaeth Ddigidol
- Dyddiad cychwyn Ionawr/Chwefror 2023
- Dyddiad gorffen: Gorffennaf 2023
Y Cyrsiau sy’n cael eu Cynnig
- Ffotograffiaeth Ddigidol (BTEC Lefel 1) Campws y Barri – MAC on Track – Ffotograffiaeth Ddigidol – Coleg Caerdydd a’r Fro (cavc.ac.uk)
- Gwneud Ffilmiau Dogfen (BTEC Lefel 2) Caerdydd – Bydd y cwrs hwn yn cael ei addysgu gan y gwneuthurwr ffilmiau dogfen arobryn, Jay Bedwani – MAC on Track – Gwneud Ffilmiau Dogfennol – Coleg Caerdydd a’r Fro (cavc.ac.uk)
- Dylunio Gêm (BTEC Lefel 1) Caerdydd – Mac on Track – Cyflwyniad i Ddylunio Gêm – Coleg Caerdydd a’r Fro (cavc.ac.uk)
- Celf a Dylunio (BTEC Lefel 1) Caerdydd – MAC on Track – Cyflwyniad i Gelf a Dylunio – Coleg Caerdydd a’r Fro (cavc.ac.uk)
Pam Dewis MAC?
- Mae myfyrwyr yn astudio ym Mhencadlys MAC, yn hytrach na champws mawr canol y ddinas, sy’n well gan lawer o fyfyrwyr.
- Mae’r amgylchedd dysgu yn hamddenol, yn feithringar ac yn gynhwysol.
- Mae MAC yn blaenoriaethu lles myfyrwyr
- Mae maint y dosbarthiadau yn fach (uchafswm o 16 myfyriwr)
- Mae MAC yn croesawu’n arbennig geisiadau gan fyfyrwyr nad ydynt wedi gallu cael mynediad at gyfleoedd tebyg mewn mannau eraill, sydd mewn perygl o gael eu hallgáu’n gymdeithasol, ac nad ydynt mewn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth.
- Pwynt gwerthu unigryw arall i MAC yw bod ganddynt arbenigwyr yn y diwydiant yn addysgu ar y cyrsiau a’u bod yn datblygu llwybrau i’r diwydiannau creadigol. Felly, bydd myfyrwyr sy’n cwblhau cyrsiau yn cael cymorth i symud ymlaen i addysg bellach neu fyd gwaith.
- Mae’r myfyrwyr nid yn unig yn ennill cymwysterau BTEC ond, yn bwysicach fyth, maent yn cynhyrchu portffolios o waith y gallant eu defnyddio i ddangos eu sgiliau a’u potensial i gyflogwyr a/neu golegau/prifysgolion y dyfodol. Mae myfyrwyr hefyd yn dysgu sgiliau ymarferol a chreadigol perthnasol.
Dywed rhai o’r myfyrwyr sydd eisoes yn cael hyfforddiant drwy MAC:
“Rwyf wrth fy modd â’r ffaith bod ein tiwtoriaid yn arbenigwyr ac yn addysgu o’u profiad uniongyrchol”
“Oni bai am MAC, byddwn wedi gorfod gohirio fy astudiaethau. Mae’n well gen i fod mewn lle llai i ffwrdd o’r prysurdeb.”
“Rwyf wedi dysgu llawer yn MAC ac mae fy hyder wedi cynyddu’n arw. Mae wastad rhywun i siarad ag ef ac mae pawb yn gyfeillgar iawn. Rwyf wrth fy modd yma.”