Ydych chi rhwng 11 a 25 oed? Ydych chi’n uniaethu rhywle ar y sbectrwm traws*?
Mae Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda Theatr Sherman yng Nghaerdydd ar brosiect cyffrous a hoffem i chi fod yn rhan ohono!
Ddydd Iau 24ain a dydd Gwener 25ain Gorffennaf, byddwn yn cynnal gweithdy ysgrifennu creadigol i gynhyrchu darn o waith celf creadigol i’w arddangos yn Pride Cymru ac mewn digwyddiad ar gyfer Diwrnod Cofio Trawsryweddol ym mis Tachwedd 2014. Bydd y digwyddiad yn cynnwys gweithdy a gynhelir gan Norena Shopland (Pride Cymru a hanesydd LHDT) ar leisiau traws* drwy hanes.
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim i fynychu ac mae ar agor i unrhyw un rhwng 11 a 25 oed sy’n byw yng Nghymru sy’n hunaniaethu rhywle ar y sbectrwm traws*. Mae lleoedd yn gyfyngedig, felly cysylltwch i gadarnhau eich un chi!
Pryd: Dydd Iau 24ain – Dydd Gwener 25ain Gorffennaf, 10:30 – 4pm.
Ble: Theatr y Sherman, Ffordd Senghennydd, Caerdydd
Darperir prydau bwyd a gallwn dalu costau teithio a llety.
I gadarnhau eich lle, cwblhewch y ffurflen ganiatâd: https://www.formstack.com/forms/?1767529-dNDqwo60m0
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â rachel@youthcymru.org.uk / 07528814373