Wel efallai mai dyma rai o'r ystrydebau mwyaf ond mewn gwirionedd, mae gwyddoniaeth gyfrifiadurol yn dod yn fwy a mwy poblogaidd ac yn bwysicach fyth, mae'n rhan o bron popeth y mae pobl ifanc yn ei garu; ffasiwn, cerddoriaeth, bwyd, cyfryngau cymdeithasol, chwaraeon, theatr - mae cod hyd yn oed yn eich microdon.
Mae hefyd wedi cael cefnogaeth llawer o selebs, gan gerddorion, modelau, digrifwyr, sêr chwaraeon, cyflwynwyr ac actorion - hyd yn oed aelod o garfan Taylor Swift!
Ond mae Generation Code yn fwy na dim ond dysgu am god. Mae'n ymwneud ag ysbrydoli pobl ifanc mewn byd digidol trwy ddefnyddio themâu sydd o ddiddordeb iddynt wrth herio'r canfyddiadau o wyddoniaeth gyfrifiadurol.
Trwy redeg Generation Code mae gennych y pŵer i alluogi pobl ifanc i fanteisio ar gyfleoedd digidol newydd mewn byd lle mae angen sgiliau digidol ar 90% o'r holl swyddi.