Ein Strategaeth

Strategaeth Ieuenctid Cymru 2025-30

Mae’r strategaeth hon yn gosod pobl ifanc wrth galon popeth a wnawn, gan eu grymuso i ffynnu drwy gyfleoedd unigryw, arloesol sy’n newid bywydau. Fel aelod-fudiad ar gyfer Cymru gyfan, rydym yn uno sectorau amrywiol sy’n gweithio gyda phobl ifanc. Ein nod yw dod yn brif sefydliad a arweinir gan aelodau ar gyfer gwaith ieuenctid yng Nghymru, gan ysgogi cydweithredu ac effaith.

Ein Blaenoriaethau

Blaenoriaeth Un

Byddwn yn rhoi hwb i gyfleoedd, prosiectau a rhaglenni cydweithredol, unigryw, arloesol sy’n newid bywydau, er mwyn i bobl ifanc yng Nghymru ffynnu.

Blaenoriaeth Dau

Arwain datblygiad y gweithlu mewn gwaith ieuenctid diogel ac effeithiol sy’n dangos ei effaith ar bobl ifanc.

Blaenoriaeth Tri

Rhoi mynediad i’n haelodau at adnoddau o ansawdd uchel, hyfforddiant, partneriaethau a chyllid i wella eu gwaith gyda phobl ifanc.

Blaenoriaeth Pedwar

Tyfu Youth Cymru fel sefydliad cynaliadwy gyda digon o arbenigedd, cyllid ac adnoddau i gyflawni ein cenhadaeth.