Dyfodol Adnewyddadwy

Ymunwch â Ni i Grymuso’r Genhedlaeth Nesaf i Arwain y Frwydr yn Erbyn Newid Hinsawdd

Canolfan Ieuenctid Gweithredu Hinsawdd

Ymunwch â ni a byddwch ar flaen y gad wrth frwydro yn erbyn newid hinsawdd gyda phobl ifanc yng Nghymru. Byddwch yn cael mynediad i adnoddau fel ein Pecyn Cymorth Sesiwn Newid Hinsawdd, arweiniad gan staff profiadol, ac adnoddau ariannol ar gyfer eich prosiectau. Rydym wedi ymrwymo i greu pecynnau cymorth cynaladwyedd deniadol a rhyngweithiol i’n hybiau Gweithredu Hinsawdd Ieuenctid eu darparu, gan gynnig profiadau dysgu ymarferol i bobl ifanc. Bydd y gweithdai hyn yn gweithredu fel llwyfan deinamig i bobl ifanc ennill sgiliau newydd a datblygu dealltwriaeth ddofn o bwysigrwydd cynaliadwyedd amgylcheddol, gan feithrin ymdeimlad cryf o berchnogaeth ac ymrwymiad i fentrau gweithredu hinsawdd.

Arwain y Newid yn Eich Cymuned

Rydym yn ymroddedig i rymuso ac annog cyfranogwyr ifanc i arwain a goruchwylio prosiectau cymunedol ymarferol gyda ffocws allweddol ar ddatblygu newid ffordd o fyw cymunedol. Trwy feithrin partneriaethau cydweithredol ag ysgolion, busnesau lleol, a grwpiau cymunedol yng Nghymru, ein nod yw darparu llwyfan i gyd-gynhyrchwyr ifanc o bob lleoliad arwain gweithdai a mentrau ymarferol o fewn clybiau ieuenctid lleol a sefydliadau cymunedol. Bydd y prosiectau hyn sy’n cael eu harwain gan bobl ifanc yn mynd ati i hyrwyddo ac annog ymddygiad cynaliadwy, gan bwysleisio arwyddocâd ailddefnyddio, atgyweirio ac ail-ddefnyddio deunyddiau, a thrwy hynny greu effaith crychdonni stiwardiaeth amgylcheddol gadarnhaol o fewn y cymunedau.

Ein Nodau