Crëwch eich stori, a dewch yn rhan o Fio!
Yr haf hwn, bydd Prosiect Fio yn dod i Ganolfan Mileniwm Cymru. Rhwng 10fed a 29ain Awst, mae ein hysgol haf yn gyfle i bobl ifanc 13 – 19 oed fwynhau cipolwg go iawn ar weithio yn y celfyddydau. Darganfyddwch sut mae pethau’n cael eu gwneud ar gyfer y llwyfan a’r teledu, gwnewch ffrindiau newydd a dysgwch sgiliau newydd.
Gyda chymorthfeydd gan gwmnïau gan gynnwys Theatr Genedlaethol Cymru, Canolfan Mileniwm Cymru ac Opera Cenedlaethol Cymru, byddwch chi’n dysgu sgiliau a thechnegau newydd ac yn gwneud ffrindiau gwych!
Dewch i greu rhywfaint o ddrama!
Byddwch yn Berfformiwr, yn Gyfarwyddwr, yn Gynhyrchydd, yn Awdur, yn Dechnegydd, yn Ddylunydd neu’n Hyrwyddwr – eich penderfyniad chi yw hi.
Gan weithio mewn cydweithrediad â gweithwyr proffesiynol blaenllaw byddwch yn datblygu a chreu sioe i’w pherfformio o flaen cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd a thu hwnt!
Eleni byddwn yn gweithio tuag at gynhyrchiad ar gyfer dathliadau canmlwyddiant Roald Dahl yn 2016.
Gorau oll…mae’r cyfan am ddim!
Eisiau gwybod mwy neu gymryd rhan, cysylltwch â ni a byddwn yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych. Cysylltwch â ni yn: hello@wearefio.co.uk
Darperir cinio yn ystod dyddiadau mis Awst ac mae bwrsariaethau teithio ar gael, gofynnwch am ragor o wybodaeth.