Mae’n bleser gennym groesawu Flora (Pennaeth Grantiau) a Harriet (Rheolwr Grantiau) o dîm Sefydliad Garfield Weston a fydd yn cyflwyno eu hawgrymiadau gorau ar gyfer gwneud cais ac wedi hynny yn cymryd rhan mewn sesiwn Holi ac Ateb gyda’r mynychwyr.
Sefydliad dyfarnu grantiau elusennol yw Sefydliad Garfield Weston, sy’n cefnogi ystod eang o achosion ledled y DU, gan gyfrannu dros £90m y llynedd. Fe’i sefydlwyd ym 1958 gan y teulu Weston ac mae’n un o’r sefydliadau elusennol mwyaf yn y DU sydd wedi cyfrannu ymhell dros £1 biliwn hyd yma. Os ydych yn elusen gofrestredig yn y DU neu CIO, neu os oes gennych statws elusen eithriedig, gallwch wneud cais am gyllid ar unrhyw adeg a byddwch yn derbyn penderfyniad ymhen 4 mis. Maent yn rhoi grantiau anghyfyngedig ar gyfer costau craidd a chostau prosiect. Maent yn cefnogi sefydliadau ar draws: Celfyddydau , Addysg , Ieuenctid , Iechyd , Amgueddfeydd a Threftadaeth , y Gymuned , yr Amgylchedd , Ffydd a Lles , yn enwedig i’r rhai mewn angen, mewn ardaloedd o anfantais economaidd.