Estyn Allan
Ydych chi’n 14-25 oed neu’n gweithio gyda phobl ifanc 14-25 oed? Oes gennych chi syniad a fydd yn dod â phobl ifanc at ei gilydd ac yn cynyddu eu cysylltedd cymdeithasol a’u hyder trwy weithgareddau hwyliog a difyr? Fel rhan o’n rhaglen ReachOut 2.0, mae Youth Cymru yn cynnig 10 grant bach o hyd at £200 i sefydliadau a grwpiau i leihau unigrwydd ac arwahanrwydd a hybu lles pobl ifanc mewn cymunedau lleol. Delfrydol i gyd-fynd â’ch rhaglenni ar gyfer yr hanner tymor!
Bydd angen:
- i fod yn aelod cofrestredig o Youth Cymru (cofrestru am ddim yma )
- bod â pholisïau a gweithdrefnau diogelu perthnasol ar waith.
- i roi pobl ifanc wrth wraidd eich cais
- cyfrannu at broses werthuso ysgafn gyda phobl ifanc
Os oes gennych chi unrhyw syniadau ar gyfer gweithgareddau/prosiectau mwy sy’n cynyddu cysylltiadau cymdeithasol i bobl ifanc (gan gynnwys ar-lein), byddem hefyd wrth ein bodd yn clywed gennych gan ein bod nawr yn cynllunio cyfleoedd ariannu ar gyfer y dyfodol!
Mae ceisiadau nawr ar agor trwy Ffurflen MS syml, gyflym yma !
I gael rhagor o fanylion/cymorth, anfonwch linell atom yn: communications@youthcymru.org.uk