Pwy sy’n Penderfynu a sut i gael eich clywed?

Hyfforddwyr – Helen Mary Jones & Christian Webb

Helen Mary Jones

Mae Helen Mary Jones yn enwog fel Aelod Cynulliad Plaid Cymru hirhoedlog ac fel ymgyrchydd dros gydraddoldeb a chyfiawnder at hawliau cymdeithasol a gwleidyddiaeth gymdeithasol yng Nghymru o ran cyfleoedd cyfartal, gan ddelio a chamdriniaeth yn erbyn merched.  Ar y cyd a Phrifysgol Abertawe, bu iddi feithrin cyfraith Gymreig newydd yn sicrhau hawliau democrataidd pobl ifanc a phlant.  Mae’n gwasanaethu ar Fwrdd Arsyllfa Cymru ar Hawliau Dynol Plant a Phobl Ifant, sydd wedi’i leoli yng Ngholeg Y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe.

Dyddiad ac Amser : Dydd Mercher 15 Chwerfor  – 10am – 4pm

Cost: £90

£15 am achrediad

 

Crynodeb: Mae’r cwrs hwn yn rhoi cyfle i gyfranogwyr i ddysgu sut gellir dylanwadu ar bolisi pobl ifanc.
Gall yr hyfforddiant hwn gael ei achredu gan Uned Agored Cymru: Dylanwadu ar Bolisi Pobl Ifanc a Gwneud Penderfyniadau, Lefel: Dau
Credydau: 1
Cynnwys: Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys:

· Lle mae polisau pobl ifanc yn cael eu creu a phwy yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â’r polisïau hynny.

· Sut y mae polisi yn effeithio bobl ifanc a’r rhai sy’n gweithio gyda’r bobl ifanc hynny

· Mae’r cysylltiad rhwng llunio polisi a Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn (UNCRC).

· Sut mae arferion da yn dylanwadu ar benderfyniadau polisi sy’n effeithio ar bobl ifanc.

 

Canlyniadau Dysgu: Bydd cyfranogwyr yn:

· Yn adnabod y rhai sy’n gwneud penderfyniadau mewn perthynas â pholisi pobl ifanc.

· Yn adnabod y berthynas rhwng datblygu polisi a phobl ifanc.

· Yn adnabod sut mae arferion da yn effeithio ar lunio polisïau pobl ifanc.

Asesu ac Achredu: Mae Achredu ar gyfer cyfranogwyr yn ddewisol. Bydd y rhai sy’n dewis ardystio yn gallu ennill achrediad Lefel 2 mewn Dylanwadu ar Bolisi Phobl Ifanc a Gwneud Penderfyniadau, Lefel 2, Credyd 1. Bydd yn gofyn am gyflwyno aseiniad ysgrifenedig, bydd manylion yn cael eu hanfon yn electronig ar ôl y cwrs hyfforddi. Cewch cymorth tiwtoriaid  er mwyn cwblhau yn llwyddiannus.

Daw achrediad am gost ychwanegol.

Am fwy o fanylion am y cwrs, ebostiwch Julia: Julia@youthcymru.org.uk