Un ar ddeg tim o bobl ifanc o Gymru trwyddo i Rownd Derfynol

Genedlaethol cystadleuaeth rheoli arian ledled y DU

Timau’n cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol yr Her Arian am Oes, cystadleuaeth

rheoli arian a redir gan Grŵp Bancio Lloyds, gyda ColegauCymru a Youth Cymru.

Mae un ar ddeg tîm o bobl ifanc o Gymru yn dathlu heddiw ar ôl cyrraedd Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru y gystadleuaeth Her Arian am Oes, sy’n cael ei redeg gan Grŵp Bancio Lloyds, er mwyn ysbrydoli gwell sgiliau rheoli arian mewn cymunedau lleol ar draws y DU, gyda chefnogaeth ColegauCymru a Youth Cymru.

Mae’r timau wedi cael eu dewis o blith 80 o geisiadau o bob rhan o Gymru i gyrraedd rownd derfynol yr Her Arian am Oes yn y Doctor Who Experience ym Mhorth Teigr, Caerdydd ar 28 Ebrill 2015.
Bydd pump o’r timau yn cyflwyno eu prosiectau rheoli arian i banel o feirniaid uchel eu proffil, gan obeithio cael eu coroni’n Enillydd Her Arian am Oes Cymru 2015.

Y pump yw:

D.O.S.H – (Defining Our Spending Habits)
Acorn Learning Solutions

Aeth y tîm i’r afael â materion penodol a brofir gan fyfyrwyr sy’n mynd ymlaen i brifysgol. Rhoesant wybodaeth i fyfyrwyr newydd sy’n symud o addysg bellach i addysg uwch er mwyn adeiladu sylfaen iddynt i fedru gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch eu harferion gwario.

Be In Th’ Know With Ya Dough
Coleg Gwent, Parth Dysgu Blaenau Gwent

Aeth y prosiect i’r afael a’r angen i bobl ifanc ym Mlaenau Gwent i arbed arian. Tynnodd y tîm sylw at bwysigrwydd arbennig arbed arian mewn ardall lle mae’n rhaid i bobl ifanc i fyw ar incwm isel iawn. Bu iddynt addysgu eu cyfoedion gydag awgrymiadau arbed arian ac hefyd bu iddynt berswadio nifer o fusnesau lleol i gynnig gostyngiadau, cynigion arbennig neu nwyddau am ddim i bobl ifanc lleol.

Radiate – Families Project
Charter Housing, Casnewydd

Gweithiodd y tîm i ddylunio ac adeiladu app ffonau ar thema effeithlonrwydd ynni er mwyn helpu teuluoedd ifanc weld sut y gallant arbed arian drwy fabwysiadu arferion mwy effeithlon o ddefnyddio ynni. Cynhaliodd y tîm bedwar sesiwn wyneb yn wyneb gyda datblygwr app i ddod â’u syniadau yn fyw a buont yn gweithio gyda theuluoedd lleol i fesur ei effaith.

C-Banc
Coleg Penybont

Edrychodd C-Banc ar sut i helpu pobl ifanc ym Mhenybont arbed arian drwy eu hannog i siopa mewn siopau elusen lleol. Gweithiodd y tîm gyda’r elusen gofal canser Tenovus ym Mhenybont i gynnal ymgyrch rhodd i ysbrydoli mwy o bobl ifanc i roi i siopau elusen, a bu iddynt gynnal ymgyrchoedd hyrwyddo yn yr ardal leol i annog mwy o bobl yn eu harddegau ac oedolion ifanc i siopa ynddynt.

Gym Value for Money
Coleg Gwent, Crosskeys

Edrychodd y prosiect i mewn i’r gost o ddefnyddio campfeydd. Cymharwyd pris campfeydd coleg gyda dewisiadau eraill gan awdurdodau lleol a’r sector breifat.  Cynhyrchwyd taflenni a phosteri, a gafodd eu dosbarthu ar gampws y coleg a defnyddiwyd e-byst a’r mewnrwyd i hybu gwybodaeth am y gwahaniaethau o ran cost. Anelodd y tîm i hyrwyddo ffyrdd o arbed arian yn ogystal â’r pwysigrwydd i gadw’n heini.

Ochr yn ochr â’r pum tîm a fydd yn cyflwyno eu prosiectau ar y llwyfan, bydd chwe thîm pellach yn cystadlu am Wobr y Bobl, sy’n cael ei ddyfarnu yn unol â phleidlais mynychwyr y Rownd Derfynol Genedlaethol. Y rhain yw:

  • Beauty Therapy Community o Goleg Gwent
  • Upcycling Splott o Global Love Trust
  • Sassy Savings o Youth Cymru
  • Saving before Leaving o Grŵp NPTC
  • Young Carers o YMCA
  • Young Pension Payers o ISA Training

Cafodd y prosiectau eu cynnal dros gyfnod o dri mis ar ôl i’r grwpiau dderbyn grant o £ 500 gan Arian am Oes i roi eu syniadau ar waith.

Bydd enillydd Rownd Derfynol Cenedlaethol Cymru yn ennill £1,000 i roi i’r elusen o’u dewis.

Meddai Rachel Dodge, Rheolwr Prosiect Arian am Oes yng Nghymru: “Mae sgiliau rheoli arian yn hanfodol i’n bywydau bob dydd ac ry’n ni’n falch iawn fod cynifer o dimau o Gymru wedi cymryd rhan yn yr Her Arian am Oes eleni.  Ry’n ni’n falch o gyhoeddi yr 11 tim fydd yn Rownd Derfynol Genedlaethol Cymru eleni.  Mae pob tîm wedi dyfeisio prosiect gwirioneddol arloesol i helpu eu cymuned.  Rwy’n dymuno pob hwyl iddynt i gyd. ”

Dywedodd David Rowsell, Pennaeth Rhaglen Arian am Oes yn Grŵp Bancio Lloyds: “Mae’r Her Arian am Oes yn helpu pobl ifanc greu prosiect rheoli arian er budd i’w cymuned leol ac hefyd yn eu galluogi i ddatblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i reoli eu harian eu hunain yn fwy effeithiol. Mae Arian am Oes yn un o’r rhaglenni craidd wrth wraidd nod Grŵp Bancio Lloyds i helpu Prydain ffynnu.

“Rwyf wedi cael fy nharo’n fawr gan arloesedd a brwdfrydedd pob un o’r timau sydd wedi cymryd rhan yn yr Her eleni.  Profodd yn benderfyniad anodd i’n barnwyr benderfynu pa grwpiau ddylai gael gwahoddiad i’r rowndiau terfynol cenedlaethol. Dymunaf pob lwc i’r timoedd i gyd.”

Bydd enillydd Rownd Terfynol Cymru yn mynd i Ffeinal Fawreddog y DU a gynhelir yn Amgueddfa Ffilm Llundain yn Covent Garden yn Llundain ar 28 Mai, lle byddant yn cystadlu yn erbyn timau o Loegr, Gogledd Iwerddon a’r Alban i hawlio’r teitl Enillwyr Her Arian am Oes y DU 2015. Caiff y timau y cyfle i ennill £3,000 i roi i elusen o’u dewis.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Her Arian am Oes, ewch i www.moneyforlifechallenge.org.uk, neu  Facebook arwww.facebook.com/moneyforlifeuk ac ar Twitter www.twitter.com/moneyforlifeuk.

// DIWEDD

Am fwy o wybodaeth cysylltwch â: Donna McGrory / Joe Ogden yn Four Communications ar 020 3697 4307 /moneyforlife@fourcommunications.com

Neu, James Birch, Grŵp Bancio Lloyds, james.birch@lloydsbanking.com / 02073562239

Nodiadau i Olygyddion
Am Arian am Oes

Rhaglen rheoli arian personol arobryn Grŵp Bancio Lloyds yw Arian am Oes, wedi’i dargedu at bobl ifanc ac oedolion mewn sefydliadau addysg, hyfforddiant a chymunedol. Mae Lloyds wedi buddsoddi £10 miliwn yn y rhaglen rhwng 2010-2015.

Mae Arian am Oes yn cynnig cymwysterau hyfforddiant achrededig, a ariennir yn llawn er mwyn galluogi gweithwyr sy’n cefnogi cymunedau ar draws y DU i ymgorffori sgiliau rheoli arian personol ar lefel leol.

Mae’r Her Arian am Oes yn gystadleuaeth genedlaethol sy’n darparu grant o £500 i roi grym i dimau o bobl ifanc 16-24 oed sydd yn addysg bellach, hyfforddiant neu sefydliadau cymunedol i redeg prosiectau rheoli arian yn eu hardal.

Darperir yr Her Arian am Oes 2014/15 gyda’n partneriaid ColegauCymru a  Youth Cymru, yr Academi Genedlaethol ar Wasanaethau Arian, UK Youth, Young Scot a’r NOW Group.

Dyfarnwyd ‘Big Tick’ i raglen Arian am Oes ac fe gyrhaeddodd rhestr fer Gwobr 2014 Adeiladu Cymunedau Cryfach a redir gan Busnes yn y Gymuned.